Gofal plant ar gyfer rhieni

Gwybodaeth amadnoddau gofal plant yn Sir Ddinbych.

Clwb ar ôl ysgol

Bydd clybiau ar ôl ysgol yn darparu gofal plant ar ôl oriau ysgol, ac maen nhw’n lle saff i blant chwarae, ymlacio a chymdeithasu. Gall rhai clybiau sydd ddim yn cael eu rhedeg gan ysgolion, gasglu plant o’u hysgol ar ddiwedd y dydd.

Bydd rhai clybiau ar ôl ysgol ar agor yn ystod gwyliau ysgol hefyd.

Mae’n rhaid cofrestru plant â’r clwb, ac mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr eu casglu.

Dewch o hyd i glwb ar ôl ysgol ar Dewis (gwefan allanol)

Clybiau brecwast

Yr ysgol fydd yn rhedeg clybiau brecwast fel arfer, ac fe fyddan nhw’n cynnig lle saff gyda goruchwyliaeth i blant fynd cyn yr ysgol. Maen nhw’n darparu brecwast iach i ddisgyblion ac maen nhw’n arbennig o ddefnyddiol os bydd eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn gynnar.

Dewch o hyd i glwb brecwast ar Dewis (gwefan allanol)

Gofalwyr plant

Mae gofalwyr plant yn hunangyflogedig, ac yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain. Fe fyddan nhw’n gofalu am blant sydd ond ychydig fisoedd oed i fyny, am ran o’r dydd neu’r diwrnod cyfan.

Cytunir ar y taliadau am ofalu am blant rhwng y rhiant a’r gofalwr, ac fe fyddan nhw’n amrywio’n dibynnu ar nifer yr oriau y bydd eich plentyn yn cael gofal.

Dewch o hyd gofalwyr plant ar Dewis (gwefan allanol)

Meithrinfeydd dydd

Bydd meithrinfeydd dydd yn gofalu am blant hyd at bump oed. Maen nhw ar agor gydol y flwyddyn, ac yn codi tâl am y gofal plant a gynigir.

Dod o hyd i meithrinfeydd dydd ar Dewis (gwefan allanol)

Gofal Plant Dechrau'n Deg

Cynllun ydi Dechrau’n Deg i ddarparu gofal plant mewn ardaloedd penodedig ar gyfer plant o ddwy oed hyd at oed ysgol gorfodol. Mae hwn ar gael yn ardaloedd dalgylch ysgol Christchurch ac Ysgol Emaniwel yn y Rhyl, ac Ysgol Gwaenynog yn Ninbych.

Mwy am Dechrau’n Deg

Clybiau gwyliau

Bydd clybiau gwyliau’n darparu ystod eang o weithgareddau chwarae i blant yn ystod y gwyliau ysgol. Caiff rhai eu rhedeg gan ysgolion, tra bod eraill yn cael eu rhedeg gan sefydliadau preifat neu wirfoddol.

Bydd costau’n amrywio rhwng clybiau gwyliau, ac fe godir tâl y dydd arnoch chi am bob dydd y bydd eich plentyn yn bresennol.

Dewch o hyd i glwb gwyliau ar Dewis (gwefan allanol) 

Mudiad Ysgolion Meithrin

Bydd y Mudiad Ysgolion Meithrin yn rhedeg grwpiau Cylch Meithrin a grwpiau Ti a Fi, lle bydd plant yn dysgu drwy chwarae, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gall plant a babanod o unrhyw oed sydd dan oed ysgol fynd i grwpiau Ti a Fi, ac mae croeso i’w gofalwyr hefyd. Mae’n rhaid i blant fod yn ddwy a hanner i fynd i grwpiau Cylch Meithrin.

Grwpiau rhieni a phlant bach

Mae grwpiau rhieni a phlant bach yn darparu man cyfarfod i rieni a gofalwyr sydd â babanod a phlant bach ymlacio a sgwrsio gyda'i gilydd tra bydd y plant yn chwarae.

Dewch o hyd i grŵp rhieni a phlant bach ar Dewis (gwefan allanol)

Mwy wybodaeth am grwpiau rhieni a phlant bach

Grwpiau chwarae

Bydd grwpiau cofrestredig yn cymryd plant o ddwy oed a hanner hyd at oed ysgol gorfodol, ar gyfer sesiynau bore neu brynhawn.

Gallwch adael eich plentyn yng ngofal staff cymwysedig, ond bydd grwpiau chwarae’n dibynnu ar rieni sy’n wirfoddolwyr.

Dewch o hyd i grŵp chwarae ar Dewis (gwefan allanol)

Mwy gwybodaeth

Gall gofal plant ymddangos yn ddrud, ond mae’r rhan fwyaf o deuluoedd â hawl i rywfaint o help ariannol. Gweld gwybodaeth am help gyda chostau gofal plant.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Ddinbych hefyd yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i deuluoedd ar amrywiaeth o faterion eraill.