Cyflwyniad i Ofal Plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed
Mae gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed, neu Ofal Plant Dechrau’r Deg yn flaenorol, yn gymwys yn un o’n grwpiau chwarae partner, ein Cylchoedd Mudiad Meithrin, neu’n Meithrinfeydd Dydd.
Beth sydd ar gael
Gall y cynllun hwn ddarparu hyd at ddeuddeg awr a hanner o ofal plant a ariennir rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol (pum sesiwn yr wythnos fel arfer) mewn lleoliad sydd wedi cofrestru i ddarparu gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed.
Gellir defnyddio’r gofal plant a ariennir ar gyfer plant sy’n dechrau o’r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn dair.
Bydd amseroedd y sesiynau yn dibynnu ar bob sesiwn, ond fel arfer byddant yn:
- 9am i 11:30am
- 1pm i 3:30pm
Lleoliadau
Dysgwch pa leoliadau gofal plant sy’n cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru i blant 2 oed yn Sir Ddinbych.
Gormod o Geisiadau
Os ydym yn cael mwy o geisiadau am leoedd na sydd gan leoliad gofal plant, yna dilynir ein meini prawf gormod o geisiadau, ble byddwn yn ystyried:
- oed y plentyn
- unrhyw frodyr a chwiorydd sy’n mynd i’r lleoliad/ysgol
- unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Os yw hyn yn digwydd efallai y byddwch yn cael cynnig lle gyda’ch ail ddewis. Os nad yw’ch plentyn yn cael lle yn unrhyw un o’r lleoliadau a nodwyd gennych, nid oes hawl ffurfiol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Os ydych yn gwrthod cynnig o ddarpariaeth gofal plant arall, rhoddir eich plentyn ar restr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd lle ar gael gan eich darparwr a ffefrir.
Gwneud cais am ofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed
Mae ceisiadau ar gyfer gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed ar gael ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Dysgwch sut i wneud cais am ofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed.
