Welsh Government funded childcare for 2-year-olds: Become a provider
Os ydych chi’n ddarparwr gofal plant, gallwch gofrestru eich diddordeb i ddarparu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed (Gofal Plant Dechrau’n Deg gynt).
Cymhwysedd
Er mwyn darparu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed, mae’n rhaid i ddarparwyr gofal plant:
- fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- fod yn darparu gofal plant o ansawdd uchel
- fod wedi derbyn sgôr ‘da’ yn eu hadroddiad Estyn/AGC mwyaf diweddar
- heb fod â meysydd o ddiffyg cydymffurfio yn eu Hadroddiad AGC
Y gefnogaeth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
Mae lleoliadau gofal plant sy’n darparu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed yn derbyn Cymhorthydd Addysgu Dechrau’n Deg dynodedig a fydd yn:
- gweithio i feithrin perthnasoedd cryf gyda’r lleoliad
- darparu cefnogaeth ac arweiniad pan fo’i angen
- cyfeirio lleoliadau at hyfforddiant a chyllid sydd ar gael iddynt
Cofrestru eich diddordeb i ddarparu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed
Mae modd cofrestru eich diddordeb ar-lein er mwyn darparu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed.
Gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb ar-lein i ddarparu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim.
Dysgwch fwy am Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim
Cofrestru eich diddordeb i ddarparu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed
Ar ôl cofrestru eich diddordeb
Ar ôl cofrestru diddordeb eich lleoliad gofal plant, byddwn yn:
- trefnu cyfarfod neu alwad ffôn i drafod eich lleoliad a darparu trosolwg o’r broses gofrestru a’r disgwyliadau
- adolygu eich cais
- byddwn angen Adolygiad Safon Gofal a/neu Gynllun Gwella Lleoliad diweddar
- byddwn yn gosod dyddiad ar gyfer asesiad (sydd yn para am sesiwn lawn) a byddwn yn defnyddio Fframwaith Cefnogi Lleoliad i sgorio a bydd adroddiad yn cael ei goladu o hwn
