Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi'i ariannu

Efallai fod eich plentyn yn gymwys i dderbyn 10 awr o addysg wedi’i ariannu bob wythnos, o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Mae’n rhaid iddynt fynychu cylch chwarae neu Feithrinfa Ddydd sydd wedi cofrestru gyda’n Rhaglen Addysg Gynnar, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn.

Pwy sy'n gymwys?

Plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 1 Medi 2025 a 31 Rhagfyr 2025 sy’n gymwys i gael cyllid o fis Ionawr 2026 tan fis Gorffennaf 2026.

Mae plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 1 Ionawr 2026 a 31 Mawrth 2026 yn gymwys i gael cyllid o fis Ebrill 2026 tan fis Gorffennaf 2026.

Nid yw plant sy’n cael eu pen-blwydd yn 3 oed rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Awst 2026 yn gymwys am gyllid drwy’r cynllun hwn gan y byddant yn gymwys am le mewn Dosbarth Meithrin Ysgol o fis Medi 2026.

Sut mae'n gweithio?

Os yn gymwys, byddai’r cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r cylch chwarae neu feithrinfa ddydd am y tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn dair oed hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd honno. Ni ellir darparu cyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.

Rhai o fuddion Addysg Gynnar

  • Magu hyder
  • Gwneud ffrindiau newydd
  • Cael hwyl mewn amgylcheddau gwahanol
  • Datblygu annibyniaeth
  • Dysgu siarad Cymraeg
  • Datblygu creadigrwydd a dychymyg
  • Archwilio a datrys problemau

Sut i wneud cais

I wneud cais am Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi’i ariannu, byddwch angen:

1. Lle wedi'i gytuno ar gyfer eich plentyn mewn lleoliad cofrestredig sy’n rhan o’r cynllun (gweler y rhestr wirio isod).

Gweld y rhestr o gylchoedd chwarae a meithrinfeydd cofrestredig sy'n rhan o'r cynllun

Cylchoedd chwarae a meithrinfeydd dydd cofrestredig sy’n rhan o’r cynllun Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi’i ariannu

Cyfrwng Cymraeg

  • Cylch Meithrin Clocaenog
  • Cylch Meithrin Dewi Sant
  • Cylch Meithrin Dinbych Uchaf
  • Cylch Meithrin Hadau’r Nant
  • Cylch Meithrin Henllan
  • Cylch Meithrin Llanelwy
  • Cylch Meithrin Llangollen
  • Cylch Meithrin Llanrhaeadr
  • Cylch Meithrin Rhuthun
  • Cylch Meithrin Tremeirchion
  • Cylch Meithrin y Graig
  • Cylch Meithrin Ysgol y Llys
  • Cylch y Dderwen, Canolfan y Dderwen
  • Ysgol Betws GG
  • Ysgol Bro Dyfrdwy
  • Ysgol Pant Pastynog
  • Ysgol Pentrecelyn

Cyfrwng Saesneg

  • Meithrinfa Beach House, Marine Drive
  • Clwb Hwyl Bodnant Bach
  • Borthyn Bunnies
  • Grŵp Chwarae Bumblebees
  • Busy Bods
  • Gofal Plant Crist y Gair
  • Clawdd Offa Bach
  • CIC Clwb Penmorfa
  • Meithrinfa Corwen (Dwyieithog)
  • Cylch Chwarae Gellifor
  • CIC Cylch Chwarae Faenol
  • Ffrindiau Bach
  • Fun Days
  • Meithrinfa Happy Days
  • Grŵp Chwarae Hiraddug
  • Little Acorns, Rhuthun
  • Little Acorns, Llandyrnog
  • Little Acorns, Y Rhyl
  • Little Lambs yn Emmanuel
  • Lleoliad Cyn-ysgol Little Lambs
  • Little Rascals
  • Miri Melyd
  • Munchkins yn Llanbedr DC
  • Grŵp Chwarae Puddleducks
  • Grŵp Chwarae Rhuddlan
  • Grŵp Chwarae Cymunedol Llanelwy
  • Summerhouse
  • Canolfan Gofal Plant The Mill
  • Tiny Tots
  • Ysgol Bro Famau
  • Ysgol Caer Drewyn
  • Ysgol Carrog
  • Ysgol Cefn Meiriadog
  • Ysgol Clawdd Offa
  • Ysgol Dyffryn Iâl

2. I wneud cais ar-lein mae angen darparu tystiolaeth o ddyddiad geni a chyfeiriad eich plentyn.

Gwneud cais ar-lein am Addysg Gynnar - 10 awr o addysg wedi'i ariannu

A ellir defnyddio’r cyllid ar gyfer diwrnodau llawn yn fy lleoliad a ddewiswyd?

Nac oes, mae’r cyllid yn darparu 5 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, 2 awr yr un, yn debyg i ddosbarth meithrin ysgol.

Neu, mewn rhai amgylchiadau, 4 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, sy'n para 2 awr a hanner.

Ydi hi'n bosib rhannu'r cyllid rhwng lleoliadau?

Nac ydi, dim ond cyllid ar gyfer un lleoliad sydd ar gael i’ch plentyn.

A oes rhaid i fy mhlentyn fynychu bob dydd?

Nac oes, ond mae’n rhaid i bob lleoliad gynnig sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae mynychu’n ddyddiol yn gymorth i bontio i’r ysgol.

Os ydw i'n gymwys, a oes modd gwarantu y caf le mewn dosbarth meithrin ysgol?

Nac oes, bydd angen gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin ysgol, Rhagor o wybodaeth o ran pryd a sut i wneud cais am le mewn dosbarth meithrin ysgol.

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych

Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Rhagor o wybodaeth

Mae 10 awr o addysg wedi’i ariannu drwy'r Tîm Addysg Gynnar yn rhan o’r Cynnig Gofal Plant 30 awr. I weld a ydych yn gymwys ar gyfer oriau gofal plant ychwanegol, gwiriwch a gwnewch gais yn Gwefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol ar gyfer addysg eich plentyn gan ein hadran grantiau ac ariannu.