Hyfforddiant GGD: Lefel 2 Hylendid Bwyd (cwrs ar-lein)

Mae’r Dystysgrif Hylendid Bwyd yn Gwrs Achrededig Lefel 2 gyda Thystysgrif Achrededig Cymwys. 

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Mae'r cwrs hwn yn digwydd ar-lein a dylid ei gwblhau o fewn 30 diwrnod o gofrestru'r cod a gewch ar ôl cofrestru am y cwrs

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ar-lein a dylid ei gwblhau o fewn 30 diwrnod o gofrestru'r cod y byddwch yn ei dderbyn ar ôl cofrestru ar gyfer y cwrs.

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Mae’n rhaid i’r lleoliad hefyd fod wedi’i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs. 

Ffurflen gais archebu ar-lein ar gyfer cwrs Lefel 2 Hylendid Bwyd

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Safer Food Group (gwefan allanol).

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru