Hyfforddiant GGD: Lefel 2 Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle i Ymarferwyr Gofal Plant (cwrs ar-lein)

Hyfforddiant achrededig yw Iechyd A Diogelwch yn y Gweithle i Ymarferwyr Gofal Plant, wedi’i fwyhau a’i addasu i gynnwys eich diogelwch yn y gwaith, diogelwch y plant dan eich gofal, a diogelwch ymwelwyr i'ch lleoliad gofal plant.

Mae'r cwrs yn cynnwys maes llafur gorfodol Iechyd a Diogelwch Lefel 2 y DU ac mae’n cynnwys:

  • Cyflwyniad i Iechyd A Diogelwch
  • Cyfraith Iechyd A Diogelwch Gofal Plant
  • Dosbarthiad ac adrodd damweiniau
  • Risgiau ac asesiad risg
  • Peryglon amgylchedd meithrinfa
  • Peryglon chwarae a chyfarpar chwarae
  • Codi a symud yn gorfforol
  • Atal a rheoli heintiau

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ar-lein a dylid ei gwblhau o fewn 30 diwrnod o gofrestru'r cod y byddwch yn ei dderbyn ar ôl cofrestru ar gyfer y cwrs.

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Mae’n rhaid i’r lleoliad hefyd fod wedi’i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs. 

Ffurflen gais archebu ar-lein ar gyfer cwrs Lefel 2 Iechyd A Diogelwch yn y Gweithle i Ymarferwyr Gofal Plant

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Safer Food Group (gwefan allanol)

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru