Hyfforddiant GGD: Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Faeth (cwrs ar-lein)

Mae’r cwrs Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Faeth yn gwrs fideo ar-lein sy’n dilyn maes llafur Ymwybyddiaeth o Faeth Cymeradwy’r DU (Bwyta’n fwy iach a deietau arbennig), mae wedi’i ffilmio mewn lleoliadau gofal plant a lleoliadau ceginau masnachol.

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu’n llawn gan QUALIFI, Sefydliad Dyfarnu yn y DU wedi’i reoleiddio gan OFQUAL. Mae’n darparu ymwybyddiaeth fanwl o beth sy’n cynrychioli deiet cytbwys sy’n briodol o ran maeth ar gyfer babanod a phlant ifanc (0-5 oed).

Mae’r cwrs hwn wedi’i ysgrifennu gan awdur a chynghorydd Arbenigwr Maeth PhD. Mae’r cwrs yn cynnwys mynediad diderfyn rhad ac am ddim i arholiadau ar-lein, gan arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Dyfarniad wedi’i Ardystio) gan Sefydliad Dyfarnu wedi’i reoleiddio gan OFQUAL (tystysgrif ar gael i’w lawrlwytho fel PDF), a system olrhain cynnydd staff os byddwch chi'n prynu mwy nag un.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ar-lein a dylid ei gwblhau o fewn 30 diwrnod o gofrestru'r cod y byddwch yn ei dderbyn ar ôl cofrestru ar gyfer y cwrs.

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Mae’n rhaid i’r lleoliad hefyd fod wedi’i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs. 

Ffurflen gais archebu ar-lein ar gyfer cwrs Lefel 2 Ymwybyddiaeth o Faeth

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Safer Food Group (gwefan allanol).

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru