Hyfforddiant GGD: Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch ac Asesiadau Risg mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar 

Mae’r gweithdy rhyngweithiol dwy awr a hanner hwn yn helpu dysgwyr ddeall y gofynion deddfwriaethol ar gyfer iechyd a diogelwch mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys cwblhau asesiadau risg.

Erbyn diwedd y gweithdy, bydd dysgwyr yn:

  • ymwybodol o ddeddfwriaeth, rheoliadau ac arfer da mewn  iechyd a diogelwch o ran lleoliadau blynyddoedd cynnar
  • deall cyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr o fewn y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau
  • gallu nodi peryglon
  • deall beth yw asesiad risg
  • gwybod sut i gwblhau asesiad risg ymarferol
  • gallu cwblhau dogfen asesiad risg 

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Cynhelir y cwrs hwn ddydd Llun 18 Mai 2026, o 6:30pm i 9pm yng Nghanolfan y Dderwen, Y Rhyl.

Gwybodaeth am y lleoliad

Canolfan y Dderwen

Gwybodaeth am y Nghanolfan y Dderwen

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig mewn lleoliadau gofal plant yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn unig (gwefan allanol).

Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl cael y cais i gadw lle byddwn yna’n anfon e-bost yn cadarnhau gyda manylion eich cwrs hyfforddi. 

Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch ac Asesiadau Risg mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).

Canslo Archeb

Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os na fyddwch yn canslo archeb mewn pryd. 

Canslo archeb ar-lein

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru