Maethu a mabwysiadu

Maethu

Maethu Cymru Sir Ddinbych yw’r enw newydd ar wasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol. I gael mwy o wybodaeth am faethu yn Sir Ddinbych:

Ewch i wefan Maethu Cymru Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Rydym yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ac yn cydweithio er mwyn adeiladu gwell dyfodol i blant lleol. Tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych yw eich darparwr maethu lleol a’ch rhwydwaith cefnogi. Nid gwasanaeth maethu arferol mohonom; rydym yn llawer mwy cysylltiedig.

Fel sefydliad nid er elw, rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth er mwyn helpu i adeiladu dyfodol disglair ar gyfer plant ardal Sir Ddinbych. Rydym yn eu helpu i aros yn eu cynefinoedd cyfarwydd, lle sy’n iawn iddyn nhw.

Cysylltwch â Maethu Cymru Sir Ddinbych

Cyfeiriad:

Maethu Cymru Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Rhif Ffôn: 0800 7313215

E-bost: maethucymru@sirddinbych.gov.uk

Mabwysiadu

Mae mabwysiadu’n golygu dod yn deulu newydd gydol oes i blentyn pan na fydd eu rhieni’n gallu gofalu amdanyn nhw.

Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (gwefan allanol) sy’n delio â Mabwysiadu yng Ngogledd Cymru.