Addysg Cyn Geni i Rieni

Mae Addysg Cyn Geni i Rieni yn gwrs pedair wythnos sy’n cynnig y sesiynau canlynol:

  • Sesiwn 1: Yr hyn i’w ddisgwyl wrth roi genedigaeth
  • Sesiwn 2: Ystumiau geni actif a dulliau lleddfu poen
  • Sesiwn 3: Bwydo baban
  • Sesiwn 4: Cysgu’n ddiogel a gofalu am fabanod newydd 

Merched beichiog yn darllen llyfr

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?

Mae'r cwrs Addysg Cyn Geni i Rieni ar gael i famau yn Sir Ddinbych sydd yn nhrydydd tymor eu beichiogrwydd. Mae croeso i’r partner geni ddod hefyd. 

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Dewiswch leoliad i ddarganfod pryd a lle y cynhelir sesiynau:

Canolfan y Dderwen (y Rhyl)

Cyrsiau yn Canolfan y Dderwen

Mae’r cwrsiau pedair wythnos Addysg Cyn Geni i Rieni yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Dderwen o 12:30pm tan 2:30pm:

  • Grŵp 1: Dydd Mawrth 1 Medi 2026 i Dydd Mawrth 22 Medi 2026
  • Grŵp 2: Dydd Mawrth 29 Medi 2026 i Dydd Mawrth 20 Hydref 2026
  • Grŵp 3: Dydd Mawrth 27 Hydref 2026 i Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026
  • Grŵp 4: Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2026 i Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2026

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel

Sut i gymryd rhan

Bydd angen i chi gadw lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n mynd i bob un o’r sesiynau i fanteisio i’r eithaf ar y cwrs.

Sut i gadw lle

I gadw lle ar y cwrs Addysg Cyn Geni i Rieni, gallwch chi: