Mynd yn syth i:

Oriau agor
Dydd Mercher 6pm tan 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc 11 oed neu hŷn ac ym mlynyddoedd 7 ac 8.
Dydd Iau 6pm tan 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch hyd at 17 oed.
Yn ôl i frig y dudalen.
Gweithgareddau
Bob wythnos, bydd gennym weithgaredd dan sylw, ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau, gemau a phethau eraill i gymryd rhan ynddynt drwy gydol y sesiwn.
Sesiwn iau
Hydref 2026
Hydref 2026
7 Hydref: Sgiliau gwaith coed gyda Gerry - rhan 1
Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i ddylunio a chreu eu blwch adar eu hunain.
14 Hydref: Sgiliau gwaith coed gyda Gerry - rhan 2
Bydd pobl ifanc yn ychwanegu mân orffeniadau i’w blychau adar.
21 Hydref: Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau
I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau, bydd pobl ifanc yn defnyddio amrywiaeth o gynhwysion i addurno eu cacennau eu hunain.
28 Hydref: Egwyl hanner tymor
Dim sesiwn yr wythnos yma.
Tachwedd 2026
Tachwedd 2026
4 Tachwedd: Wythnos Gwaith Ieuenctid
Eleni, rydym yn dathlu’r bobl, y llefydd a’r profiadau sy’n helpu pobl ifanc i dyfu, perthyn a ffynnu. O weithwyr ieuenctid cefnogol i fannau diogel, mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl allweddol yn siapio dyfodol pobl ifanc.
11 Tachwedd: Afalau siocled
Gall pobl ifanc wneud eu hafalau siocled eu hunain a dewis eu topins
18 Tachwedd: Noson ffilm
Bydd y bobl ifanc yn cael gwylio ffilm yn y ganolfan ieuenctid, gyda danteithion blasus a siocled poeth gyda’r holl drimins.
25 Tachwedd: Creu Addurniadau Nadolig
Bydd pobl ifanc yn creu eu haddurniadau Nadolig eu hunain ar gyfer eu canolfan ieuenctid.
Rhagfyr 2026
Rhagfyr 2026
2 Rhagfyr: Addurniadau Nadolig
Bydd pobl ifanc yn addurno eu canolfannau ieuenctid gyda’u creadigaethau Nadoligaidd o’r wythnos gynt.
9 Rhagfyr: Diwrnod siwmper Nadolig a gemau
Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau Nadoligaidd, gyda phwyntiau bonws i’r siwmper Nadolig orau.
16 Rhagfyr: Hyfforddiant staff
Dim sesiwn yr wythnos yma.
23 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig
Dim sesiwn yr wythnos yma.
30 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig
Dim sesiwn yr wythnos yma.
Sesiwn hŷn
Hydref 2026
Hydref 2026
1 Hydref: Noson Gemau Mawr
Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn herio'r tîm ieuenctid i gemau fel Kerplunk, Guess Who? a Yahtzee anferth.
8 Hydref: Paentio canhwyllau
Bydd pobl ifanc yn addurno canhwyllau i fynd adref gyda nhw.
15 Hydref: Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau
I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Addurno Cacennau, bydd pobl ifanc yn defnyddio amrywiaeth o gynhwysion i addurno eu cacennau eu hunain.
22 Hydref: Noson gemau bwrdd / cardiau
Bydd pobl ifanc yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac aelodau staff mewn noson o gemau bwrdd a chardiau.
29 Hydref: Egwyl hanner tymor
Dim sesiwn yr wythnos yma.
Tachwedd 2026
Tachwedd 2026
5 Tachwedd: Wythnos Gwaith Ieuenctid
Eleni, rydym yn dathlu’r bobl, y llefydd a’r profiadau sy’n helpu pobl ifanc i dyfu, perthyn a ffynnu. O weithwyr ieuenctid cefnogol i fannau diogel, mae gwaith ieuenctid yn chwarae rôl allweddol yn siapio dyfodol pobl ifanc.
12 Tachwedd: Afalau siocled
Gall pobl ifanc wneud eu hafalau siocled eu hunain a dewis eu topins.
19 Tachwedd: Noson ffilm
Bydd y bobl ifanc yn cael gwylio ffilm yn y ganolfan ieuenctid, gyda danteithion blasus a siocled poeth gyda’r holl drimins.
26 Tachwedd: Creu Addurniadau Nadolig
Bydd pobl ifanc yn creu eu haddurniadau Nadolig eu hunain ar gyfer eu canolfan ieuenctid.
Rhagfyr 2026
Rhagfyr 2026
3 Rhagfyr: Addurniadau Nadolig
Bydd pobl ifanc yn addurno eu canolfannau ieuenctid gyda’u creadigaethau Nadoligaidd o’r wythnos gynt.
10 Rhagfyr: Diwrnod siwmper Nadolig a gemau
Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gemau Nadoligaidd, gyda phwyntiau bonws i’r siwmper Nadolig orau.
17 Rhagfyr: Hyfforddiant staff
Dim sesiwn yr wythnos yma.
24 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig
Dim sesiwn yr wythnos yma.
31 Rhagfyr: Gwyliau’r Nadolig
Dim sesiwn yr wythnos yma.
Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen islaw cyn i’ch plentyn allu mynychu ein clybiau ieuenctid. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.
Cofrestru gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych (gwefan allanol)
You can choose to change the language to English or Welsh on the form page.
Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen, nid oes angen i chi aros i glywed gennym ni, gallant ymuno â’r sesiwn nesaf sydd ar gael yn unrhyw un o’n clybiau ieuenctid.
Yn ôl i frig y dudalen.
Cyfleusterau
- Mynediad i bobl anabl
- WiFi am ddim
- Bwrdd pŵl
- Tennis bwrdd
- Playstation
- Cegin
- Deunyddiau celf a chrefft
Yn ôl i frig y dudalen.
Cwrdd â’r tîm
Tudur Parry ydi'r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer de'r sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo fo wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.
Mesurau Diogelwch Covid
Rydym yn parhau i ddilyn y
cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff.
Yn ôl i frig y dudalen.
Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni
Clwb ieuenctid Dinbych
HWB Dinbych
Smithfield Road
Dinbych
LL16 3UW
Cysylltwch â clwb ieuenctid Dinbychh arlein
Rhif ffôn symudol Tudur Parry: 07795 051832
Yn ôl i frig y dudalen.
Sut i gyrraedd yma
Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)
Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.