Canolfan ieuenctid Prestatyn

Mynd yn syth i:

Prestatyn youth centre

Oriau agor

  • Dydd Mawrth 6pm i 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc 11 oed neu hŷn ac ym mlynyddoedd 7 ac 8.
  • Dydd Mercher 6pm i 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch hyd at 17 oed.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Sesiwn iau

Ebrill 2026

Ebrill 2026

7 Ebrill: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


14 Ebrill: Ymgynghoriad

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan wrth drefnu sesiynau clwb ieuenctid y dyfodol, gan rannu eu barn ar beth yr hoffent ei wneud a sut y gellir ei wneud.


21 Ebrill: Diwrnod y Llyfr

Gall pobl ifanc gystadlu mewn cystadleuaeth stori fer, i’w hysgrifennu yn ystod y sesiwn. Bydd yr enillydd yn cael gwobr yn eu sesiwn clwb ieuenctid nesaf.


28 Ebrill: Gwneud llysnafedd

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu llysnafedd eu hunain i fynd adref gyda nhw.


Mai 2026

Mai 2026

5 Mai: Calan Mai

Bydd pobl ifanc yn croesawu’r gwanwyn trwy wneud torchau blodau a gwestai pryfed.


12 Mai: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

I ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau lles, dysgu sgiliau newydd a chanfod pethau all gefnogi eu lles emosiynol.


19 Mai: Twrnamaint pŵl

Bydd pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn cystadlu mewn twrnamaint pŵl ar draws y clwb, gyda gwobrau i’r pencampwyr.


26 Mai: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mehefin 2026

Mehefin 2026

2 Mehefin: PRIDE

I ddathlu mis Pride, bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgaredd i ddysgu am y gymuned LHDTCRhA+.


9 Mehefin: Cacennau Rice Crispie

Bydd pobl ifanc yn gwneud cacennau rice crispie i’w bwyta, mynd a nhw adref neu eu rhannu gydag eraill.


16 Mehefin: Sesiwn celf a chrefft

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiwn celf a chrefft yr haf, gan gasglu eitemau a gasglwyd o’r tu allan.


23 Mehefin: Gwneud bwydwyr adar

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu bwydwr adar eu hunain, y gallant eu rhoi yn unrhyw le y dewisant fwydo’r adar.


30 Mehefin: Codi sbwriel

Bydd pobl ifanc yn cefnogi eu cymuned trwy godi sbwriel y tu allan i’w canolfannau ieuenctid.


Gorffennaf 2026

Gorffennaf 2026

7 Gorffennaf: Gemau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gemau awyr agored megis rownderi, tynnu rhaff neu bêl-droed.


14 Gorffennaf: Helfa sborionwyr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn helfa sborionwyr, ble bydd rhaid iddynt weithio mewn timau a rasio i ddod o hyd i bopeth ar y rhestr yn gyntaf. Pwyntiau bonws i’r gorau o bob tîm hefyd.


Sesiwn hŷn

Ebrill 2026

Ebrill 2026

1 Ebrill: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


8 Ebrill: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.


15 Ebrill: Ymgynghoriad

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan wrth drefnu sesiynau clwb ieuenctid y dyfodol, gan rannu eu barn ar beth yr hoffent ei wneud a sut y gellir ei wneud.


22 Ebrill: Diwrnod y Llyfr

Gall pobl ifanc gystadlu mewn cystadleuaeth stori fer, i’w hysgrifennu yn ystod y sesiwn. Bydd yr enillydd yn cael gwobr yn eu sesiwn clwb ieuenctid nesaf.


29 Ebrill: Gwneud llysnafedd

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu llysnafedd eu hunain i fynd adref gyda nhw.


Mai 2026

Mai 2026

6 Mai: Calan Mai

Bydd pobl ifanc yn croesawu’r gwanwyn trwy wneud torchau blodau a gwestai pryfed.


13 Mai: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

I ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau lles, dysgu sgiliau newydd a chanfod pethau all gefnogi eu lles emosiynol.


20 Mai: Twrnamaint pŵl

Bydd pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn cystadlu mewn twrnamaint pŵl ar draws y clwb, gyda gwobrau i’r pencampwyr.


27 Mai: Egwyl hanner tymor

Ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Mehefin 2026

Mehefin 2026

3 Mehefin: PRIDE

I ddathlu mis Pride, bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgaredd i ddysgu am y gymuned LHDTCRhA+.


10 Mehefin: Cacennau Rice Crispie

Bydd pobl ifanc yn gwneud cacennau rice crispie i’w bwyta, mynd a nhw adref neu eu rhannu gydag eraill.


17 Mehefin: Sesiwn celf a chrefft

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiwn celf a chrefft yr haf, gan gasglu eitemau a gasglwyd o’r tu allan.


24 Mehefin: Gwneud bwydwyr adar

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu bwydwr adar eu hunain, y gallant eu rhoi yn unrhyw le y dewisant fwydo’r adar.


Gorffennaf 2026

Gorffennaf 2026

1 Gorffennaf: Codi sbwriel

Bydd pobl ifanc yn cefnogi eu cymuned trwy godi sbwriel y tu allan i’w canolfannau ieuenctid.


8 Gorffennaf: Gemau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gemau awyr agored megis rownderi, tynnu rhaff neu bêl-droed.


15 Gorffennaf: Helfa sborionwyr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn helfa sborionwyr, ble bydd rhaid iddynt weithio mewn timau a rasio i ddod o hyd i bopeth ar y rhestr yn gyntaf. Pwyntiau bonws i’r gorau o bob tîm hefyd.


Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen islaw cyn i’ch plentyn allu mynychu ein clybiau ieuenctid. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych (gwefan allanol)

You can choose to change the language to English or Welsh on the form page.

Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen, nid oes angen i chi aros i glywed gennym ni, gallant ymuno â’r sesiwn nesaf sydd ar gael yn unrhyw un o’n clybiau ieuenctid.

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Playstation
  • Cegin
  • Neuadd chwaraeon
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Gemau bwrdd

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Claire Cunnah ydi’r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer gogledd y sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Prestatyn
Dawson Drive
Prestatyn
LL19 8SY

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Prestatyn arlein

Ffôn: 07500 992443

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.