Canolfan ieuenctid Prestatyn

Mynd yn syth i:

Prestatyn youth centre

Oriau agor

  • Dydd Mawrth 6pm i 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac 8.
  • Dydd Mercher 6pm i 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch hyd at 17 oed.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Sesiwn iau

Hydref 2025

Hydref 2025

7 Hydref: Noson Penset VR a chynllunio parti

Amryw o weithgareddau yn y sesiwn hon, lle bydd pobl ifanc yn cynllunio eu parti Calan Gaeaf a bydd pensetiau realiti rhithiol ar gael.


14 Hydref: Crefft / addurniadau calan gaeaf

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu haddurniadau Calan Gaeaf eu hunain ar gyfer y parti.


21 Hydref: Parti Calan Gaeaf

Bydd y bobl ifanc yn gyfrifol am y parti ac yn gyfrifol am bopeth o’r cynllunio ac addurno i drefnu’n bwyd a’r gerddoriaeth!


28 Hydref: Egwyl hanner tymor

Egwyl hanner tymor - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Tachwedd 2025

Tachwedd 2025

04 Tachwedd: Dathliad Noson Tân Gwyllt / crefftau / trafodaeth

I ddathlu Noson Tân Gwyllt, bydd pobl ifanc yn gwneud crefft, dysgu am hanes Guto Ffowc yn ogystal â diogelwch o ran tân gwyllt.


11 Tachwedd: Mapio cymunedol ac effaith

Bydd pobl ifanc yn trafod beth sydd gan yr ardal i’w gynnig a sut mae hynny’n effeithio magwraeth yma.


18 Tachwedd: Noson ffilm

Ar y noson ffilm, byddwn yn gwneud popgorn, rhannu hoff 10 ffilm, trafod genres a pham fod pobl ifanc wrth eu boddau â ffilmiau arswyd.


25 Tachwedd: Cystadleuaeth pŵl / gemau bwrdd

Bydd pobl ifanc yn cystadlu gyda’i gilydd yn chwarae pŵl a gemau bwrdd.

Rhagfyr 2025

Rhagfyr 2025

2 Rhagfyr: Cwis Rhyngweithiol y Nadolig

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cwis Nadolig a chynllunio rhywbeth neis at ddiwedd y tymor.


9 Rhagfyr: Gweithredoedd o Garedigrwydd / Crefftau’r Nadolig

Bydd pobl ifanc yn gwneud cardiau Nadolig ar gyfer trigolion lleol ac yn trafod beth mae caredigrwydd yn ei olygu iddyn nhw a pham ei fod yn bwysig.


16 Rhagfyr: Noson o Bethau Da

Bydd y bobl ifanc yn mwynhau noson o bethau da ar ddiwedd y tymor wedi’i gynllunio eu hunain.


Sesiwn hŷn

Hydref 2025

Hydref 2025

1 Hydref: Diwylliant

Byddwn yn bwrw golwg ar ddiwylliannau o bedwar ban byd ac yn sôn am y pethau sy’n gwneud amryw wledydd yn enwog.


8 Hydref: Noson Penset VR a chynllunio parti

Amryw o weithgareddau yn y sesiwn hon, lle bydd pobl ifanc yn cynllunio eu parti Calan Gaeaf a bydd pensetiau realiti rhithiol ar gael.


15 Hydref: Crefft / addurniadau calan gaeaf

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu haddurniadau Calan Gaeaf eu hunain ar gyfer y parti.


22 Hydref: Parti Calan Gaeaf

Bydd y bobl ifanc yn gyfrifol am y parti ac yn gyfrifol am bopeth o’r cynllunio ac addurno i drefnu’n bwyd a’r gerddoriaeth!


29 Hydref: Egwyl hanner tymor

Egwyl hanner tymor - ni fydd sesiwn yr wythnos hon.

Tachwedd 2025

Tachwedd 2025

05 Tachwedd: Dathliad Noson Tân Gwyllt / crefftau / trafodaeth

I ddathlu Noson Tân Gwyllt, bydd pobl ifanc yn gwneud crefft, dysgu am hanes Guto Ffowc yn ogystal â diogelwch o ran tân gwyllt.


12 Tachwedd: Mapio cymunedol ac effaith

Bydd pobl ifanc yn trafod beth sydd gan yr ardal i’w gynnig a sut mae hynny’n effeithio magwraeth yma.


19 Tachwedd: Noson ffilm

Ar y noson ffilm, byddwn yn gwneud popgorn, rhannu hoff 10 ffilm, trafod genres a pham fod pobl ifanc wrth eu boddau â ffilmiau arswyd.


26 Tachwedd: Cystadleuaeth pŵl / gemau bwrdd

Bydd pobl ifanc yn cystadlu gyda’i gilydd yn chwarae pŵl a gemau bwrdd.

Rhagfyr 2025

Rhagfyr 2025

3 Rhagfyr: Cwis Rhyngweithiol y Nadolig

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cwis Nadolig a chynllunio rhywbeth neis at ddiwedd y tymor.


10 Rhagfyr: Gweithredoedd o Garedigrwydd / Crefftau’r Nadolig

Bydd pobl ifanc yn gwneud cardiau Nadolig ar gyfer trigolion lleol ac yn trafod beth mae caredigrwydd yn ei olygu iddyn nhw a pham ei fod yn bwysig.


17 Rhagfyr: Noson o Bethau Da

Bydd y bobl ifanc yn mwynhau noson o bethau da ar ddiwedd y tymor wedi’i gynllunio eu hunain.


Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Prestatyn (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Prestatyn (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Playstation
  • Cegin
  • Neuadd chwaraeon
  • Deunyddiau celf a chrefft
  • Gemau bwrdd

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Claire Cunnah ydi’r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer gogledd y sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo hi wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Prestatyn
Dawson Drive
Prestatyn
LL19 8SY

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Prestatyn arlein

Ffôn: 07500 992443

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.