Cefnogaeth a chymorth ar gyfer plant a phobl ifanc

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig cymorth un-i-un a grŵp i bobl ifanc sy’n wynebu heriau yn eu bywydau. Gallwch ddefnyddio'r ffurflenni isod i atgyfeirio person ifanc neu, os ydych chi’n berson ifanc, i gysylltu â’r gwasanaeth eich hun.

 

Os wyt ti’n berson ifanc ac yn byw yn Sir Ddinbych, defnyddia’r ffurflen yma i ofyn am gymorth:

Gofyn am gymorth (person ifanc)

 

Os ydych chi’n rhiant neu warcheidwad person ifanc, defnyddiwch y ffurflen yma i ofyn am gymorth:

Gofyn am gymorth (rhieni a gofalwyr)

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol (e.e. rhywun sy’n gweithio mewn ysgol neu asiantaeth berthnasol) ac yn dymuno atgyfeirio person ifanc, defnyddiwch y ffurflen yma:

Ffurflen atgyfeirio ar gyfer gweithwyr proffesiynol