Gwobrau Rhagoriaeth Sir Ddinbych
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Sir Ddinbych yn cydnabod a gwobrwyo’r amrywiaeth o arloesedd, gwaith caled ac arfer da yn y Cyngor.
Categorïau gwobrwyo
Mae gan bob gwobr wahanol feini prawf. Bydd categorïau gwobrwyo ar agor ar gyfer enwebiadau ar wahanol amseroedd trwy gydol y flwyddyn.
Byddwn ni’n cyhoeddi gwybodaeth am ddyddiad agor enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn Sir Ddinbych Heddiw (y bwletin dyddiol) ac ar y dudalen hon.
Dewiswch un o’r categorïau canlynol i gael gwybod mwy:
Gwobr Arwr Tawel
Bydd ymgeiswyr yn unigolion sy’n gweithio ar unrhyw lefel. Gall fod yn aelod o’n staff rheng flaen neu rywun sy’n gweithio mewn swyddfa gefn, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau eu cydweithwyr neu breswylwyr. Gallwch enwebu rhywun sy’n gweithio ar unrhyw lefel.
Gweithio Mewn Partneriaeth
Gall ymgeiswyr fod yn dimau, unigolion neu wasanaeth. Mae arnynt angen dangos eu bod wedi gweithio gyda phartneriaid i feddwl am syniad neu i ddarparu cynllun ar ran y Cyngor.
Gwobr Gymunedol Cadeirydd Y Cyngor
Dyfernir yr anrhydedd hon gan Gadeirydd y Cyngor i aelod o staff neu dîm sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymuned, megis drwy wirfoddoli, codi arian neu wasanaeth hir i achos neu grŵp penodol. Y Cadeirydd fydd yn beirniadu’r wobr hon.
Gwobr Profiad Cwsmeriaid
Gall ymgeiswyr fod yn dîm neu’n unigolyn. Dylai’r ymgeiswyr fod wedi mynd gam ymhellach i wella profiad cwsmeriaid, gan arddangos Gwerthoedd y Cyngor.
Gwobr Tîm
Bydd ymgeiswyr yn dimau sy’n gweithio ar bob lefel a phob maes yn y Cyngor. Rhaid i’r tîm fod wedi gweithio gyda’i gilydd, gan ddefnyddio doniau pob aelod a goresgyn heriau i wella bywydau cydweithwyr a/neu drigolion.
Arweinydd Tîm Ysbrydoledig
Gallai ymgeiswyr am y wobr hon fod yn gweithio ar unrhyw lefel reoli. Dylent fod yn arweinwyr sydd wir wedi ysbrydoli, grymuso, cefnogi ac ysgogi eu timau i wella’r ffordd maent yn gweithio gyda’i gilydd a’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu.
Gwobr Dyfodol Disglair
Bydd ymgeiswyr yn aelodau newydd o staff sydd wedi bod yn gweithio i’r Cyngor am hyd at ddwy flynedd. Dylent fod wedi dangos addewid cynnar a chyflawniad eithriadol yn ogystal â dangos eu hymrwymiad i’r Cyngor yn ei ethos a’i werthoedd.
Gwobr Arloesedd Neu Welliant
Gall ymgeiswyr fod naill ai'n unigolyn neu’n grŵp. Fe ddylen nhw fod wedi meddwl am ffordd unigryw a chreadigol o ddarparu gwasanaeth neu gofal mewn ffordd gwell - gallai fod yn rhywbeth syml iawn sydd wedi cael ei ddangos i wneud gwahaniaeth sylweddol.
Enwebu unigolyn neu dîm ar gyfer gwobr
I gael enwebu, mae’n rhaid i chi fod yn weithiwr cyflogedig i Gyngor Sir Ddinbych.
Mae pob categori gwobrwyo ar gyfer enwebiadau ar gau ar hyn o bryd.
Ar ôl enwebu
Caiff manylion unrhyw enwebiadau eu cadw’n breifat nes i’r gwobrau gael eu cyhoeddi.
Mae’n bosibl y bydd angen i ni gysylltu â chi am ragor o wybodaeth os caiff eich enwebiad ei roi ar restr fer ar gyfer gwobr.