Y Gymraeg a Chydraddoldeb - Sut y byddwn yn gweithio

Cymraeg

Mae'n werth pwysleisio bod y Cyngor yn dal yn ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg, cydraddoldeb a’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol – mae’r rhain yn egwyddorion allweddol sy’n sail ar gyfer ein holl wasanaethau a’r Cynllun Corfforaethol cyfan.

Hyrwyddo'r Gymraeg

Mae’r Cyngor wedi cadarnhau ei ymrwymiad at y Gymraeg yn ei strategaeth newydd ar gyfer 2023 hyd 2028, sydd â’r nod o:

  • Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Sir Ddinbych, yn enwedig felly ymysg plant a phobl ifanc drwy ddarparu mynediad at addysg a gweithgareddau cymunedol drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo cyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg.
  • Cydnabod mor bwysig yw economi ffyniannus i ddyfodol y Gymraeg a bod y Cyngor yn medru cynnig arweinyddiaeth gref wrth ddatblygu’r Gymraeg a hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth unigryw’r ardal.
  • Atgyfnerthu ein diwylliant ac ethos dwyieithog fel sefydliad a meithrin hyder staff wrth siarad Cymraeg.
  • Sicrhau bod ein gwasanaethau’n seiliedig ar Safonau’r Gymraeg a bod trigolion yn ffyddiog y gallant gael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn berthnasol i holl themâu ein Cynllun Corfforaethol a bydd ein Pwyllgor Llywio’r Gymraeg yn monitro ein cynnydd wrth eu cyflawni.

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn cynnwys ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd, yn unol â gofynion Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cymru) 2011. Hwn felly, ynghyd â’r wybodaeth ategol a’r atodiad sy’n egluro sut y datblygom Amcanion ein Cynllun Corfforaethol (a gyhoeddir ar ein gwefan Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol), yw ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’n hen bryd yn 2024 inni adolygu ein hamcanion, a bydd hynny’n helpu i gysoni’r cylchoedd cynllunio busnes ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (sy’n gweithio ar gylch pedair blynedd) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (cylch pum mlynedd) pan ddaw’r amser inni ystyried ein Cynllun Corfforaethol nesaf yn 2027. Wrth ystyried y diwygiad hwn, rydym eto wedi cyfeirio at y wybodaeth helaeth a gasglwyd yn ein Hasesiad o Les (gwefan allanol); ac yng nghyswllt Darpariaethau Ymgysylltu 2011, rydym wedi ymgysylltu’n helaeth â budd-ddeiliaid sy’n cynrychioli ein cymunedau drwy ein Harolwg Budd-ddeiliaid blynyddol (a gynhaliwyd ddiwethaf rhwng mis Medi 2022 a Chwefror 2023) a rhoi cyfle iddynt leisio’u barn ynglŷn â chynnwys a pherthnasedd amcanion ein Cynllun Corfforaethol, yn enwedig felly o safbwynt cydraddoldeb a thegwch.

Yn ystod oes y cynllun hwn a thu hwnt, byddwn yn sicrhau ymhob agwedd ar ein gwaith ein bod yn:

  • Meithrin cyswllt ag unigolion a grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig neu bobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Ystyried mor briodol yw’r cyfleusterau, gwasanaethau a gwybodaeth a ddarparwn i bobl â nodweddion gwarchodedig neu bobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Mynd i’r afael â rhwystrau rhag cyfleoedd i bobl â nodweddion gwarchodedig neu bobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol (gan gynnwys gwaith), eu herio a chael gwared arnynt, lle bo modd.
  • Gweithredu rhag pob math o droseddau casineb, gwahaniaethu, bwlio neu aflonyddu.

Bydd ein Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni’r ymrwymiadau uchod.