Telerau ac amodau: Cynllun Toiledau Cymunedol

Telerau ac amodau’r grant

  1. Mae hawl gan y cyhoedd i ddefnyddio’r toiledau heb gyfyngiad yn ystod yr oriau agor a gytunwyd arnynt.
  2. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysebu’r toiledau ar ei wefan ac mewn cyhoeddiadau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd heb gyfyngiad.
  3. Mae gan swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yr hawl i gynnal archwiliadau monitro o’r toiledau ar unrhyw adeg o fewn rheswm.
  4. Mae’n rhaid i’r Sefydliad wneud yn siŵr fod rhywun yn cadw’r toiledau yn lân a thaclus yn rheolaidd trwy gydol y dydd ac mae’n rhaid sicrhau fod papur toiled, sebon, biniau a chyfleusterau sychu dwylo. Mae’r rhaid i’r Sefydliad wneud yn siŵr bod cyflwr y toiledau yn addas bob amser a ddim yn peri risg i ddefnyddwyr.
  5. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwerthuso ceisiadau grant ac yn penderfynu ar gyfanswm y grant a delir i’r Sefydliad yn seiliedig ar amgylchiadau’r Sefydliad a’i doiledau, yn bennaf:
    • yr oriau agor yn ddyddiol (o leiaf 20 awr yr wythnos)
    • y dyddiau pan fydd y Sefydliad ar agor
    • cyfnod gweithredu’r Sefydliad (tymhorol neu trwy gydol y flwyddyn)
    • yr ystod o gyfleusterau sydd ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd
    • cyflwr ac ansawdd y cyfleusterau, a
    • polisi atebolrwydd cyhoeddus presennol ac addas ar gyfer y Sefydliad
    (angen darparu copi i Gyngor Sir Ddinbych).
  6. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn penderfynu ar faint o grant y bydd y Darparwr Gwasanaeth yn ei dderbyn pan fydd yn gwerthuso’r cais. Bydd yr arian yn cael ei ryddhau mewn ôl-daliadau ac mewn un taliad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (diwedd Mawrth). Bydd ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn yn cael eu talu mewn ôl-daliad yn pro-rata. Y taliad mwyaf a wneir o’r grant yn flynyddol yw £500. Bydd pob cais yn cael ei asesu ar yr angen.
  7. Gall y Darparwr Gwasanaeth ddod â’r cytundeb i ben drwy roi un mis o rybudd yn ysgrifenedig i Gyngor Sir Ddinbych ar toiledaucyhoeddus@sirddinbych.gov.uk. Bydd taliad yn cael ei wneud ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (diwedd mis Mawrth) ar gyfer y cyfnod lle mae’r toiledau ar gael mewn ôl-daliadau pro-rata tan y dyddiad y bydd y cytundeb yn dod i ben.
  8. Gall Cyngor Sir Ddinbych ddod â’r cytundeb i ben oherwydd amgylchiadau ariannol neu resymau eithriadol drwy roi un mis o rybudd i’r Darparwr Gwasanaeth. Os oes achos lle mae Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried fod y Darparwr Gwasanaeth wedi torri’r cytundeb yna bydd yn dod â’r cytundeb i ben ar unwaith ar ôl hysbysu’r Darparwr Gwasanaeth bod y cytundeb wedi dod i ben trwy e-bost ar y cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen gais. Bydd taliad yn cael ei wneud ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (diwedd mis Mawrth) ar gyfer y cyfnod lle mae’r toiledau ar gael mewn ôl-daliadau pro-rata tan y dyddiad y bydd y cytundeb yn dod i ben.
  9. Bydd y cytundeb rhwng Cyngor Sir Ddinbych a’r Darparwr Gwasanaeth ar gyfer pob Sefydliad yn gontract treigl a fydd yn adnewyddu’n awtomatig oni bai fod un o’r partïon yn dod â’r cytundeb i ben yn unol â’r darpariaethau wedi’u cynnwys yn y telerau ac amodau hyn.