Gwybodaeth mynediad ar gyfer ymweld â Nantclwyd y Dre
Rydym yn ymroddedig i wneud ein safle hanesyddol mor hygyrch ag sy’n bosibl i’n holl ymwelwyr. Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth am gyfleusterau’r safle, llwybrau mynediad ac unrhyw heriau posibl y gallech eu hwynebu o ran hygyrchedd yn ystod eich ymweliad.
Parcio a chyrraedd y tŷ
Y maes parcio agosaf at Nantclwyd y Dre yw maes parcio Lôn Dogfael Mae’n daith gerdded 3 munud o’r maes parcio i Nantclwyd y Dre i fyny stryd unffordd eithaf serth heb risiau na phalmant. Mae palmant ar ben yr allt, ac mae Nantclwyd y Dre ar draws y ffordd.
Mae croeso i ymwelwyr gael eu gollwng y tu allan i’r tŷ ac aros yn y tŷ tra mae aelodau eraill o’u grŵp yn parcio. Mae seddi ar gael.
Mae croeso i ymwelwyr gysylltu â staff o flaen llaw gydag unrhyw bryderon.
Mynd i mewn a symud o gwmpas y tŷ
Mae grisiau o flaen y tŷ, ond mae lôn fach wrth ochr y tŷ sydd nesaf at sgwâr y dref (nid yr ochr sydd nesaf at y castell) gydag arwydd yn dangos mynedfa ddi-risiau. Os ydych yn cael mynediad y ffordd hon, efallai y bydd angen i chi ganu’r gloch.
Anaml iawn y bydd ciw i fynd i mewn, ond mae’n bosibl y bydd angen i chi aros am ychydig wrth y ddesg groeso.
Mae canllawiau sain yn cael eu cynnig sy’n gynwysedig yn y pris mynediad.
Nid oes lifft na mynediad arall ar gael i loriau uchaf yr eiddo oherwydd ei oedran.
Nid yw’r lloriau i fyny’r grisiau yn wastad ac maent ar oleddf mewn rhannau, hefyd mae rhai o’r drysau yn isel iawn.
Mae’r llawr gwaelod a’r gerddi yn wastad gan fwyaf.
Mae staff cyfeillgar a llawn gwybodaeth wrth law i ddarparu rhagor o wybodaeth a chymorth.
Yn y gerddi mae llwybr llydan a chlir yr holl ffordd trwodd wedi’u gorchuddio â llechi mân sy’n cael eu cribinio’n rheolaidd.
Sain a golau
Mae seinweddau megis darllediadau radio o’r 1940au, cerddoriaeth a sŵn curo a chlecian yn y gegin i’w clywed ym mhob rhan o’r adeilad ac maent i’w clywed cyn gynted ag y byddwch wedi dod i mewn.
Mae piano yn y Parlwr i lawr y grisiau ac mae croeso i ymwelwyr ei chwarae.
I fyny’r grisiau, mae golau’n brin yn yr Ystafell Ganoloesol.
Mae’r ardd fel arfer yn heddychlon iawn gyda meinciau ar gael a gellir ymweld â nhw heb ymweld â’r tŷ am dâl ar wahân, ond bydd angen i chi fynd i mewn i’r tŷ i brynu tocynnau.
Cŵn Cymorth
Mae croeso i gŵn tywys a chŵn sy’n ymddwyn yn dda ar dennyn - mae powlen ddŵr ar gael wrth y fynedfa.
Cyfleusterau toiled hygyrch
Mae toiled hygyrch ar gael ar y safle.
Cynllun Piws
Mae Nantclwyd y Dre wedi cofrestru gyda Piws, sef sefydliad sy’n ymroddedig i gynhwysiant o fewn y diwydiant twristiaeth lleol trwy wella hygyrchedd.
Mae gwefan Piws yn darparu gwybodaeth am hygyrchedd i atyniadau a lleoliadau ledled gogledd Cymru.
Ewch i wefan Piws (gwefan allanol)
Cyfryngau cymdeithasol