Nantclwyd y Dre: oriau agor 

Mae Nantclwyd y Dre ar agor yn dymhorol. Cymerwch olwg ar ein horiau agor presennol cyn ymweld â ni.

Ceir mynediad cyffredinol i Nantclwyd y Dre rhwng 3 Ebrill a 30 Medi 2025:

  • bob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn
  • rhwng 10:30am a 4:30pm

Ni chaniateir mynediad i Nantclwyd y Dre ar ôl 3:30pm. Dylech gyrraedd cyn hynny er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad.

Argaeledd y tu hwnt i’n horiau agor arferol

Mae Nantclwyd y Dre ar gael ar ddiwrnodau pan fyddwn ar gau i'r cyhoedd dros yr haf a thrwy gydol misoedd y gaeaf pan fyddwn ar gau am y tymor, ar gyfer:

  • ymweliadau grŵp
  • teithiau ysgol
  • archwiliadau paranormal
  • llogi cyffredinol
  • priodasau
  • lleoliad ffilmio

Ar gyfer ymholiadau ac i archebu lle, cysylltwch â ni. 

Os yw eich cais yn ymwneud â diwrnod lle rydym ar agor fel arfer i’r cyhoedd, gwnewch ymholiad ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Cyfryngau cymdeithasol

Logo Nantclwyd y DreLogo Kids in Museums Logo yn addas i gŵn Logo Trip AdvisorLogo Historic HousesLogo Trysor Cudd 2024