Nantclwyd y Dre: tocynnau anrheg a thocynnau eraill
Chwilio am brofiad hwylus ac unigryw i chi neu’ch anwyliaid? Cymerwch olwg ar ein tocynnau anrheg a thocynnau eraill am lu o ddewisiadau cyffrous.
Tocynnau anrheg
Rhowch anrheg o fynediad i dŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre i’ch teulu a’ch ffrindiau, lle gallant gamu yn ôl mewn amser a gwneud eu hunain yn gyfforddus yn y tŷ tref ffrâm bren bob-sut yma, a’i brofi’n union fel yr oedd i’r teuluoedd oedd yn byw yma drwy’r oesau.
Mae pob tocyn yn ddilys am y tymor cyfan sydd i’w weld arno.
Nid oes posib’ cyfnewid tocynnau am eu gwerth ariannol na’u defnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall. Mae’r tocynnau’n ddilys ar gyfer mynediad fel maent yn ei nodi yn unig ac nid oes posib’ eu defnyddio i brynu unrhyw beth arall, a byddwn yn eu cadw ar ôl i chi eu defnyddio.
Sut i brynu tocyn anrheg
Mae tocynnau anrheg ar gael ar gyfer tocynnau o bob categori, a gallwch eu prynu o’r dderbynfa pan mae ar agor neu drwy gysylltu â ni.
Tocyn gardd
I rai sy’n dymuno dianc yn aml i erddi hamddenol Nantclwyd y Dre, mae tocyn gardd tymhorol ar gael sy’n cynnig mynediad didrafferth i’r gerddi yn ystod yr oriau agor arferol, gyda’r fantais ychwanegol o 20% oddi ar y pris mynediad i’r tŷ, hefyd yn ystod yr oriau agor arferol.
Tocynnau gardd:
- yn caniatáu mynediad am ddim i’r ardd yn ystod oriau agor arferol (ac eithrio digwyddiadau mae angen talu i fynd iddynt)
- yn ddilys am y tymor maent yn cael eu prynu ynddo
- yn ddilys ar gyfer deiliad y tocyn yn unig ac nid oes posib’ ei drosglwyddo i ddefnyddiwr arall
- yn gallu cael ei ddiddymu os bydd yn cael ei gamddefnyddio
Prisiau tocynnau gardd
Prisiau tocynnau gardd
Math o docyn | Pris |
Tocyn gardd oedolyn |
£10.00 |
Tocyn gardd i deulu (4 o bobl gan gynnwys o leiaf un plentyn) |
£15.00 |
Tocyn gardd newydd yn lle un sydd wedi’i golli neu ei dorri |
£1.00 |
Sut mae prynu tocyn gardd
I brynu tocyn gardd, gallwch alw draw i Nantclwyd y Dre yn ystod yr oriau agor ac fe wnawn ni roi’r tocyn i chi.
Aelodaeth Historic Houses
Mae Historic Houses yn gymdeithas yn y DU sy’n cefnogi tai a gerddi hanesyddol preifat. Gall aelodau’r gymdeithas fwynhau mynediad i tua 300 o dai, gan helpu i warchod treftadaeth Prydain.
Gall aelodau Historic Houses ymweld â Nantclwyd y Dre am ddim drwy gyflwyno eu cerdyn aelodaeth yn y dderbynfa.
Sut i ddod yn aelod o Historic Houses
Gallwch ddarganfod mwy am ddod yn aelod a chael mwy o wybodaeth drwy fynd i wefan Historic Houses.
Defnyddiwch y cod gostyngiad NANT22 i gael gostyngiad ar aelodaeth.
Agor gwefan Historic Houses (gwefan allanol)
Cyfryngau cymdeithasol