Mae Nantclwyd y Dre yn dŷ tref fframwaith coed hyfryd gyda thros 500 mlynedd o hanes i’w ddarganfod drwy fynd ar daith hudolus a rhyngweithiol yn ôl mewn amser.
Yng nghanol tref Rhuthun mae’r adeilad hardd hwn yn eich gwahodd i gamu yn ôl mewn hanes a darganfod bywydau’r preswylwyr a fu’n byw yma dros y canrifoedd. O’i ddechreuad fel tŷ gwehydd yn 1435 i’w gyfnod yn dŷ tref cyfreithiwr yn yr 17eg ganrif ac yn ysgol i ferched yn Oes Fictoria, mae’r tŷ yn datgelu haenau cyfoethog o hanes ymhob ystafell.
Profiad hanes go iawn
Wrth i chi archwilio byddwch yn dod ar draws straeon y bobl a fu’n byw ac yn gweithio yma, gyda gweithgareddau rhyngweithiol sydd yn eich gwahodd chi i brofi’r tŷ fel y gwnaeth preswylwyr yr oes a fu; gallwch wisgo dillad hen ffasiwn, eistedd yn y parlwr, chwarae gemau ar y lawnt, a mynd am dro bach hamddenol yn yr ardd gyda chwpan de vintage yn eich llaw.
Perffaith ar gyfer teuluoedd
Ar gyfer ein hymwelwyr iau mae’r llwybrau a’r gweithgareddau yn ffordd llawn hwyl i fynd am dro drwy’r oesoedd ac archwilio’r gerddi; ac mae’r camera ystlumod yn gyfle unigryw i wylio ein clwyd famolaeth o ystlumod pedol lleiaf, ystlumod hirglust ac ystlumod lleiaf.
Y gerddi
Y tu ôl i’r tŷ mae Gardd yr Arglwydd yn llecyn heddychol sy’n berffaith ar gyfer ymlacio a chael eich cefn atoch. Gyda’i gwyrddni llachar, blodau lliwgar a golygfeydd godidog o Fryniau Clwyd a Chastell Rhuthun, mae’n lle da iawn hefyd i gael picnic neu fynd am dro bach hamddenol.
Cartref sy’n croesawu pawb
Mae Nantclwyd y Dre yn lle perffaith i deuluoedd, cyplau, haneswyr ac unrhyw un sy’n mwynhau archwilio treftadaeth, pensaernïaeth a gerddi hardd i ddarganfod rhan bwysig o’n treftadaeth leol. Felly dewch draw a gwnewch eich hunain yn gyfforddus yn y tŷ a’r gerddi hanesyddol a hardd yma – rydym ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi.
Cyfryngau cymdeithasol