Plas Newydd, Llangollen

Amseroedd archebu ac agor

1 Ebrill tan 31 Hydref: mae’r tŷ a’r ystafelloedd te ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm.

Mae’r gerddi'n ar agor am ddim bob dydd ac nid oes angen trefnu ymlaen llaw. Mae’r giatiau ar gau bob nos ar fachlud haul. Caniateir cŵn ar dennyn yn y gerddi ac ar iard yr ystafell de.

Cysylltu â ni

Hill Street
Llangollen
LL20 8AW

E-bost: plasnewydd@denbighshire.gov.uk

Rhif Ffôn: 01978 862834

Cyfryngau cymdeithasol

Manylion am Plas Newydd

Daliodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ddychymyg cymdeithas Rhaglywyddiaeth.

Roeddent yn derbyn cryn dipyn o ymwelwyr i'r bwthyn bychan gwylaidd, a dros y blynyddoedd buont yn ei drawsffurfio i ffantasi Gothig o wydr lliw a derw cerfiedig hardd.

Ym Mhlas Newydd heddiw, mae arddangosfa gan gynnwys rhai o'u heiddo a thaith glywedol yn dod â'u stori yn fyw. Gallwch fynd am dro drwy'r gerddi ac ar hyd llwybr glannau'r afon.

A chewch gael paned, fel y gwnaeth Wordsworth, Sir Walter Scott a Dug Wellington o'ch blaen.

Rhestr prisiau

  • Oedolyn: £7.00
  • Plant 5 i 16 oed: £6.00
  • Plentyn dan 5 oed: am ddim
  • Teulu: £19.50
  • Pobl Hŷn (60 oed +): £6.00
  • Myfyrwyr: £6.00
  • Gofalwr gydag ymwelwr anabl: am ddim
  • Clwb Archeolegwyr Ifanc: am ddim
  • Ysgolion Sir Ddinbych: £2.00 y pen
  • Pob ysgol arall: £2.25 y pen
  • Arweinlyfr: £2.00
  • Llyfr sain: £1.50

Ymweliadau grŵp

Beth am ddod â'ch grŵp ar gyfer ymweliad bythgofiadwy i Blas Newydd a'r Gerddi ac Ystafelloedd Te?

Rydym yn cynnig sgwrs am ddim i grwpiau o 15 neu fwy, a bydd un o'n Cynorthwywyr Treftadaeth yn datgelu hanes rhyfeddol y tŷ a'i breswylwyr.

Gallwch archebu ymlaen llaw a chael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â ni ar 01978 862834 neu plasnewydd@denbighshire.gov.uk.

Ystafelloedd te

Rhwng mis Ebrill a mis Hydref mae ein Ystafelloedd Te yn darparu bwyd cartref lleol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar: 01978 862834 neu plasnewydd@denbighshire.gov.uk.

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.