Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth
Rydym yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth am ddim ar gyfer busnesau i archebu taflenni a phamffledi. Cynhyrchir y wybodaeth hon i annog ymwelwyr i’r ardal, a gwella eu profiad pan maent yma.
Mae'r cynnyrch yn cynnwys:
- Darganfod Sir Ddinbych Hanesyddol
- Darganfod Yr Wyddgrug
- Lleoedd i ymweld â'r map yn Sir Ddinbych
- Llwybr y dref Corwen
- Llwybr y dref Dinbych
- Anelwch am Dreffynnon
- Llwybr y ddinas Llangollen
- Llwybr y ddinas Llanelwy
- Llwybr y dref Prestatyn
- Llwybr y dref Rhuddlan
- Llwybr y dref Rhuthun
- Llwybr y dref y Rhyl
- 8 taith cerdded gynaliadwy: Darganfod cefn gwlad Sir Ddinbych ar bws
Pwy all archebu?
Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yn ac o amgylch Gogledd Ddwyrain Cymru ac os ydych mewn cyswllt ag ymwelwyr.
Sut i archebu
Gallwch archebu o'r Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth arlein. Byddwn yn trefnu i'r cwmni dosbarthu ddanfon y cynnyrch i chi, yn rhad ac am ddim.
Archebwch gan ein Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth arlein
Archebwch digon o stoc ar gyfer tri mis, nes y dosbarthiad nesaf. Os byddwch yn rhedeg yn isel yn y cyfamser, ffoniwch ni ar 01824 706223 neu anfonwch e-bost at tourism@denbighshire.gov.uk a gwnawn ein gorau i drefnu bod mwy o stoc yn cael ei anfon i chi.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd ein cwmni dosbarthu yn danfon y stoc i chi yr wythnos yn dilyn y dyddiad cau.
Os na dderbyniwch eich taflenni o fewn pythefnos i’r dyddiad cau, anfonwch e-bost atom ar tourism@denbighshire.gov.uk.