Cŵn ar ein traethau

Mae croeso i gŵn ar draethau'r Rhyl a Phrestatyn. Fodd bynnag, yn ystod misoedd prysur yr haf, dim ond ar rai rhannau o'r traeth y caniateir cŵn.

Pryd na chaniateir cŵn ar y traethau?

  • 1 Hydref - 30 Ebrill: gallwch chi fynd â'ch ci i unrhyw le ar y traeth.
  • 1 Mai - 30 Medi: cyfyngiadau yn eu lle - dim ond i rai rhannau o'r traeth y cewch chi fynd â'ch ci am dro.

Lle fedra i fynd â'm ci am dro?

Tra mae'r cyfyngiadau yn eu lle, gallwch chi fynd â'ch ci am dro i'r ardaloedd dynodedig ar gyfer cŵn, sef:

  • yr ardal o'r traeth rhwng Kite Surf Café, y Rhyl, a Ffrith Festival Gardens, Groyne 8, Prestatyn
  • yr ardal i'r dwyrain o'r Clwb Hwylio ar Draeth Barkby, Prestatyn

Mae yna arwyddion a mapiau ar y traethau yn dangos lle gallwch chi fynd â'ch ci am dro yn ystod misoedd yr haf.