Gwybodaeth am Marine Lake

Marine Lake
Wellington Road
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1AQ

Ffôn: 01824 708400

Mae'r Llyn Morwrol yn gronfa ddŵr 12 hectar o law dyn ger aber Afon Clwyd.

I'r rheiny ohonoch chi sydd ddim eisiau gwlychu eich traed, beth am fynd am dro o amgylch y llyn. Mae'r Llwybr Amgylcheddol newydd bellach ar agor lle gallwch chi ryfeddu ar holl fywyd gwyllt yr ardal. Neu, beth am daith ar y Rheilffordd Fach sy’n cael ei gweithredu gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Stêm y Rhyl (gwefan allanol) - y rheilffordd hynaf o’i math ym Mhrydain.

Oriau agor

Mae'r tir o amgylch y Llyn Morol ar agor drwy gydol y flwyddyn, felly gallwch fynd am dro ar unrhyw adeg. Mae yma hefyd ddau faes chwarae awyr agored, un ar gyfer y plant bach ac un ar gyfer plant ychydig yn hŷn.

Mae gan y Llyn Morol ddwy amserlen ar gyfer defnyddwyr gwahanol.

1 Gorffennaf i 31 Awst 2022

1 Gorffennaf i 31 Awst 2022

Dydd Llun

  • 7am tan hanner dydd: Clwb sgïo dŵr
  • 1pm i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Dydd Mawrth

  • 7am i 5pm: Sailability / deiliaid trwydded
  • 6pm i 9pm: Cadetiaid y Môr

Dydd Mercher

7am i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Dydd Iau

  • 7am i 5pm: Sailability / deiliaid trwydded
  • 6pm i 9pm: Cadetiaid y Môr

Dydd Gwener

  • 7am i 4pm: Sailability / deiliaid trwydded
  • 5pm i 9pm: Clwb sgïo dŵr

Dydd Sadwrn

  • 7am i 5pm: Clwb sgïo dŵr
  • 6pm i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Dydd Sul

  • 7am tan hanner dydd: Clwb sgïo dŵr
  • 1pm i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded
1 Ebrill i 30 Mehefin ac 1 Medi i 31 Hydref 2022

1 Ebrill i 30 Mehefin ac 1 Medi i 31 Hydref 2022

Dydd Llun

  • 7am tan hanner dydd: Clwb sgïo dŵr
  • 1pm i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Dydd Mawrth

  • 7am i 5pm: Sailability / deiliaid trwydded
  • 6pm i 9pm: Cadetiaid y Môr

Dydd Mercher

7am i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Dydd Iau

  • 7am i 5pm: Sailability / deiliaid trwydded
  • 6pm i 9pm: Cadetiaid y Môr

Dydd Gwener

7am i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Dydd Sadwrn

  • 7am tan hanner dydd: Clwb sgïo dŵr
  • 1pm i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Dydd Sul

  • 7am tan hanner dydd: Clwb sgïo dŵr
  • 1pm i 9pm: Sailability / deiliaid trwydded

Rheolau

Mae rheolau gwahanol yn dibynnu ar ba fach o gyfarpar sydd gennych chi.

Fodd bynnag, bydd yn rhai di bawb gael:

  • Yswiriant
  • Siaced achub neu gymorth hynofedd
  • Trwydded (gellir prynu trwydded o Swyddfa'r Harbwr y Rhyl)

Ni chaniateir nofio.

Sgïo dŵr a thonfyrddio

Caniateir sgïo-dŵr a thonfyrddio drwy Glwb Sgïo Dŵr Ocean Beach yn unig.

Bydd angen i unrhyw un â diddordeb yn y gweithgareddau hyn ar y llyn holi gyda’r clwb am ddod yn aelod. Ni chaniateir i gerbydau pŵer weithredu ar y llyn, ac eithrio Clwb Sgïo Dŵr Ocean Beach.

Mae defnydd Peiriant Dŵr Personol (Jet Sgïo) wedi'i wahardd ar Marine Lake.

Hwylio Di-bŵer

Mae croeso i berchnogion Canŵod, Caiacau, Bordau Hwylfyrddio a Chychod Hwylio hefyd ddefnyddio'r Llyn Morol.

Fel gyda badau pŵer, mae’n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif yswiriant ddilys ac mae’n rhaid talu cyn y rhoddir trwydded a sticer cwch.

Nid fydd yna unrhyw sgïo na gweithgaredd pŵer, dim ond hwylio / di-bŵer o fis Hydref i fis Mawrth. Mae hynny drwy drafodaeth â Fforwm Defnyddwyr y Llyn Morol, gan nad ydyn ni am darfu ar fywyd gwyllt sy'n defnyddio'r ynys yn ystod y misoedd hyn.

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.