Traethau'r Rhyl

Gorllewin y Rhyl

Mae'r traeth hwn yn ymestyn o'r harbwr i'r Pentref.

Nid ydym ni'n annog pobl i nofio yma oherwydd nifer y cychod sy' mynd i mewn ac allan o'r harbwr ac oherwydd llif cyflym afon Clwyd a all beri i nofwyr gael eu hysgubo i'r môr.

Mae'r traeth yn lle gwych i dreulio diwrnod yn torheulo, ymdrochi a chodi cestyll tywod - ond peidiwch ag anghofio eich eli haul!

Ni chaniateir cŵn yma rhwng mis Mai a mis Medi.

Cŵn ar ein traethau

Canol y Rhyl

Cyferbyn â phen uchaf y Stryd Fawr, mae ein traeth prysuraf lle rydym ni’n annog pobl i ymdrochi. Yn ystod y tymor bydd ein hachubwyr bywyd yn cadw golwg arnoch chi i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel ar y traeth ac yn y dŵr fel bod modd i chi fwynhau eich hun.

Cofiwch am y llanw!

Mae traeth Canol y Rhyl bellach yn cynnig gweithgareddau chwaraeon yn rhad ac am ddim. Mae'r rhain yn cynnwys Pêl-foli a Pêl-droed Traeth tra bod yr achubwyr bywyd ar ddyletswydd.

Peidiwch â mynd yn sownd ar fanc tywod ar benllanw – cofiwch wirio amser y penllanw. Ni chaniateir cŵn yma rhwng mis Mai a mis Medi.

Achubwyr Bywyd ar y Traeth

Dwyrain y Rhyl

Ydych chi'n chwilio am rywbeth diddorol i'w wneud ar y traeth?

O ardal Gwylwyr y Glannau, heibio’r Heulfan i Old Golf Road, mae gan draeth Dwyrain y Rhyl hefyd barth gweithgareddau sy'n cynnwys campau traeth fel syrffio barcud, hwylfyrddio a chaiacio.

Mae cyfyngiad ar gŵn ar draeth Dwyrain y Rhyl o fis Mai hyd at fis Medi.

Gallwch hefyd logi cadeiriau olwyn y gellir eu defnyddio ar dywod o'r Swyddfa Syrffio Barcud.

Gwobrau

Gwobrau Arfordir Cymru (gwefan allanol)

Splash Point

Mae Splash Point yn draeth sy'n addas i gŵn a gallwch fynd â'ch ci am dro yna ar unrhyw adeg.

Mae mynedfeydd penodol (gan fod y morglawdd yn uchel rhwng y traeth a'r prom) i'w cael yma ac acw.

Os ydych chi’n mynd â'ch ci am dro ar y traeth trwy Old Golf Road, ewch i’r dwyrain (tuag at Brestatyn) i fanteisio ar filltiroedd o draeth lle caniateir cŵn.

Cŵn ar ein traethau

Gwefannau cysylltiedig

Dod o hyd i ddŵr ymdrochi (Cyfoeth Naturiol Cymru) (gwefan allanol).

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.