Cam-drin domestig

Os ydych chi’n profi neu wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu os ydych chi’n poeni am rywun yna ffoniwch Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (gwefan allanol) am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 80 10 800.

Gall cam-drin domestig gynnwys:

  • trais corfforol
  • bygythiadau llafar a bychanu
  • cam-drin seicolegol ac emosiynol, fel ynysu oddi wrth anwyliaid neu gywilyddio
  • trais rhywiol, fel treisio
  • rheolaeth ariannol, fel atal arian

Sut i gael help

Mae yna nifer o sefydliadau a all helpu os byddwch chi neu rywun rydych chi’n eu hadnabod yn dioddef cam-drin domestig. Mae rhai o’r gwefannau isod yn rhoi’r opsiwn i guddio edrychiad tudalennau yn ogystal â newid i wefan wahanol yn sydyn i’ch helpu i edrych ar y safle’n ddiogel.

Gallwch ddod o hyd i fanylion y sefydliadau rydym yn gweithio â nhw yn y cyfeirlyfr Cefnogi Pobl.

Cefnogi Pobl: Cyfeirlyfr o Wasanaethau Cymorth (PDF, 451KB)

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn - 0808 80 10 800

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (gwefan allanol) yn darparu gwasanaeth cyfeirio gyda gwybodaeth ddwyieithog 24 awr i helpu ac i arwain pobl sydd â phrofiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol, sydd angen cyrchiad i wasanaethau fel cyngor, cymorth mewn argyfwng, diogelwch, a gwybodaeth ar eu hawliau a’u hopsiynau.

Childline

Gallwch gysylltu â ChildLine am unrhyw beth – does yr un broblem yn rhy fawr nac yn rhy fach. Os byddwch yn teimlo’n bryderus, yn ofnus, dan straen neu ddim ond eisiau siarad â rhywun, gallwch gysylltu â ChildLine.

Gwefan Childline (gwefan allanol)

Cymorth i Fenywod (WWA)

Cymorth i Fenywod ydi’r sefydliad ymbarél cenedlaethol sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yng Nghymru drwyddi draw. Mae eu grwpiau aelodau’n darparu gwasanaethau uniongyrchol i ferched a phlant sydd wedi profi cam-drin domestig neu sy’n ei brofi ar hyn o bryd.

Cymorth i Ferched Cymru (gwefan allanol).

Gwasanaethau cam-drin domestig lleol
Gwasanaeth / ArdalRhif ffôn
Aberconwy 01492 872992
Colwyn 01492 534705
Glyndŵr 01745 814494
Gogledd Sir Ddinbych 01745 337104
Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru 0300 30 30 159

BAWSO (Black Association Women Step Out)
- llinell gymorth 24 awr

0800 731 8147
Gweithredu ar Gam-drin Pobl Hŷn 08088 088 141
Broken Rainbow (Cymorth i bobl lesbiaidd,
hoyw, deurywiol a thrawsrywiol)
08452 604460
MEDA (Dynion sy’n profi cam-drin domestig) 01686 610391
Llinell gymorth Dyn Wales / Dyn Cymru i ddynion 0808 801 0321
Uned Diolgelwch Trais Teuluol / Domestic Abuse Safety Unit (DASU) - Conwy (gwefan allanol) 01492 534 705