Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ddementia yn Sir Ddinbych
Dementia Gyfeillgar Dinbych
Mae Dementia Gyfeillgar Dinbych yn cynnal Cystadleuaeth Lliwio i ysgolion a chartrefi gofal yn Ninbych. Byddwn yn gofyn i blant ysgol a phreswylwyr cartrefi gofal yn Ninbych i liwio templed Forget Me Not a fydd yn cael ei arddangos yn ffenestr siop CO-OP Dinbych yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia. Bydd gwobrau yn cael eu rhoi i’r cofnod orau yn yr ysgol a chartref gofal ar ddiwedd yr wythnos.
Gwefan: Tudalen Facebook Dementia Gyfeillgar Dinbych (gwefan allanol)
Dementia Gyfeillgar Prestatyn
Mae Dementia Gyfeillgar Prestatyn yn cynnal cwrs 'Book of You' (gwefan allanol) am chwe wythnos, sydd yn cael eu cynnal ar fore Mercher ac yn cael eu cynnal yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia ar 18 Mai yn Swyddfeydd Cyngor Tref Prestatyn.
Gwefan: Tudalen Facebook Dementia Gyfeillgar Prestatyn (gwefan allanol)
Dementia Gyfeillgar Rhuddlan
Gwefan: Tudalen Facebook Dementia Gyfeillgar Rhuddlan (gwefan allanol)
Dementia Gyfeillgar Llanelwy
Popeth am Ddementia
Mae Cadeirlan Llanelwy yn cynnal ‘digwyddiad popeth am dementia’ dydd Iau 19 Mai rhwng 1pm a 4pm.
Mae croeso i bawb gael cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar bob mater ynghylch dementia gyda lluniaeth am ddim.
Prynhawn Forget Me Not
Yn ogystal bydd Llanelwy yn cynnal ‘prynhawn forget me not’ yn yr Eglwys Blwyf rhwng 2pm a 4pm ar ddydd Iau 19 Mai.
Maent yn cynnig gwahanol weithgareddau i’r rheiny sydd yn byw gyda dementia. Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth, canu, gemau, gwneud crefftau neu fynd am dro o amgylch y parc, neu eisiau galw am baned o de, dewch i ymuno â ni. Mae croeso i ofalwyr a rhai sydd wedi eu heffeithio’n bersonol gan ddementia ddod hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Janet Cameron ar 01745 583770.
Gwefan: Dementia Gyfeillgar Llanelwy (gwefan allanol)