Iechyd meddwl

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn cael eu darparu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda'r bwrdd iechyd yn derbyn y cyfrifoldeb arweiniol.

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn gweithredu o fewn Mesurau Iechyd Meddwl (2010) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod atgyfeiriadau cychwynnol yn cael eu cyflwyno drwy feddygfa meddyg teulu'r unigolyn. Yn dilyn ymgynghoriad gyda’ch meddyg teulu, gallant benderfynu a ellir gwneud atgyfeiriad i Wasanaethau Cwnsela Parabl neu a oes angen asesiad arbenigol gan Wasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl Sylfaenol.

Os ydych chi’n cael eich atgyfeirio at y Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl Sylfaenol yna gallwch ddisgwyl apwyntiad o fewn 28 diwrnod. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn cynnig ymyraethau byrdymor o hyd at 6 sesiwn, ond gallant hefyd atgyfeirio at wasanaethau eraill fel y bo’n briodol, neu eich atgyfeirio at grwpiau i’ch cefnogi i reoli eich anawsterau.

Yn dilyn asesiad ac /neu ymyrraeth, os penderfynir ei bod yn briodol, gallwch gael eich atgyfeirio at Wasanaethau Eilaidd. Mae’r rhain yn wasanaethau sy'n ddarpariaeth ar gyfer unigolion sydd â salwch meddwl / anhwylder meddwl difrifol gydag anghenion hir dymor. Mae dau Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn Sir Ddinbych:

  • Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Hafod yn y Rhyl
  • Thîm Dyffryn Clwyd yn Ninbych.

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn cefnogi neu’n hyrwyddo’r defnydd o’r trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol er enghraifft Hafal (gwefan allanol), Mind (gwefan allanol).

Gwasanaethau iechyd meddwl (wales.nhs.uk) (gwefan allanol)