Afiechyd Streptococol Grŵp A Ymledol (IGAS)

Streptococws A (Strep A)

Mae Grŵp A Streptococws (GAS) yn facteria cyffredin. Mae llawer ohonom yn ei gario yn ein gyddfau ac ar ein crwyn ac nid yw bob amser yn arwain at salwch. Fodd bynnag, mae GAS yn achosi nifer o heintiau, rhai ysgafn a rhai mwy difrifol.

Mae’r heintiau mwyaf difrifol sy’n gysylltiedig â GAS yn dod o’r Grŵp A Strep ymledol, a elwir yn iGAS.

Mwy o wybodaeth am Streptococws A (Strep A) (gwefan GIG Cymru).

Symptomau iGAS

  • Gwres (tymheredd uwch na 38°C)
  • Poenau cyhyrol difrifol
  • Tynerwch cyhyrau mewn rhannau o’r corff
  • Cochni ger clwyf

Cynghorir rhieni i gysylltu â’u meddyg teulu neu gael cyngor meddygol yn syth os ydynt yn meddwl bod eu plentyn yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau o glefyd iGAS (gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Y dwymyn goch

Mwy o wybodaeth am y Dwymyn Goch (gwefan GIG Cymru).