Cymeradwyo eiddo bwyd

Os ydych yn rhedeg busnes bwyd, efallai bod angen i chi wneud cais i gymeradwyo’r eiddo.

Os ydych yn bwriadu defnyddio cynnyrch heb ei brosesu o darddiad anifail (e.e. cig ffres, briwgig amrwd, llefrith neu wyau amrwd) i gynhyrchu unrhyw un o’r canlynol neu gyfuniad ohonynt: 

  • Briwgig 
  • Cig wedi ei baratoi 
  • Cig wedi ei wahanu’n fecanyddol 
  • Cynnyrch cig 
  • Molysgiaid deufalf byw (pysgod cregyn megis wystrys, cregyn gleision a chregyn bylchog) 
  • Cynnyrch pysgodfeydd 
  • Llefrith crai (ar wahân i lefrith gwartheg) 
  • Cynnyrch llaeth 
  • Wyau (heb fod yn gynnyrch cynradd) 
  • Cynnyrch wyau 
  • Coesau brogaod a malwod 
  • Braster anifeiliaid a choesarnau wedi eu rendro 
  • Stumogau, pledrennau a pherfeddion wedi eu trin 
  • Gelatine a cholagen 
  • Rhai mathau o storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerth

Nid oes modd i chi weithredu eich sefydliad bwyd nes iddo gael ei gymeradwyo gennym ni.

Fel rhan o’r broses gymeradwyo, mae’n rhaid i chi roi gweithdrefnau yn eu lle i reoli diogelwch bwyd. Rhaid i’r gweithdrefnau hyn fod wedi eu seilio ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP). 

Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)

Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)

Fel rhan o’r broses o gael eich cymeradwyo mae’n rhaid i chi fod â gweithdrefnau yn eu lle i reoli bwyd yn ddiogel. Mae’n rhaid i’r gweithdrefnau yma fod wedi eu seilio ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).

Egwyddorion HACCP yw:

  • Sylweddoli beth yw’r peryglon y mae’n rhaid eu rhwystro, cael gwared ohonynt neu eu gostwng i lefel dderbyniol
  • Nodi beth yw’r pwyntiau rheoli critigol ar y camau hynny pan fo rheolaeth yn hanfodol i rwystro neu i gael gwared â pheryglon neu eu gostwng i lefel dderbyniol
  • Sefydlu terfyn critigol yn y pwyntiau rheoli critigol hynny sy’n gwahanu yr hyn sy’n dderbyniol oddi wrth yr hyn sy’n annerbyniol ar gyfer rhwystro, gostwng neu gael gwared â’r peryglon sydd wedi cael eu hadnabod
  • Sefydlu gweithdrefnau monitro effeithiol a’u rhoi ar waith yn y pwyntiau rheoli critigol
  • Sefydlu camau cywiro pan fo monitro yn dangos nad yw pwynt rheoli critigol yn cael ei reoli’n briodol
  • Sefydlu gweithdrefnau i wirio bod y mesurau uchod yn gweithio’n effeithiol Llunio dogfennau a chofnodion sy’n gymesur â natur a maint y busnes bwyd i sicrhau bod y mesurau uchod yn effeithiol

Gellir teilwra eich system rheoli diogelwch bwyd i fod yn addas i’ch busnes. Dylai fod yn syml ac yn briodol i faint a math y gweithgareddau yr ydych yn bwriadu ei gwneud.

Cyn rhoi eich system dogfennau ar waith, dylai fod gennych raglen o bethau y mae’n rhaid eu gwneud er mwyn rhoi seiliau cadarn ar gyfer eich HACCP. Dyma enghreifftiau o bethau o’r fath y gallwch eu hystyried:

  1. Glanhau a hylendid
  2. Glanweithdra personol
  3. Hyfforddiant i chi eich hun a’ch gweithwyr
  4. Rheoli pla
  5. Sicrhau ansawdd cyflenwyr
  6. Rheoli gwastraff
  7. Rhaglen gynnal a chadw ataliol
  8. Systemau rheoli digwyddiadau/galw cynnyrch yn eu holau

Unwaith bod y rhestr o bethau y mae’n rhaid eu gwneud yn ei lle awgrymir i chi sefydlu proses llif gwaith ar gyfer pob un o’ch cynhyrchion. Bydd angen i chi feddwl ynglŷn â ble mae deunyddiau crai yn cael eu cadw a sut maen nhw’n cael eu rheoli, sut ydych chi’n rheoli ac yn cylchdroi stoc, sut mae osgoi bod deunyddiau crai yn dod i gyswllt â chynnyrch sydd wedi ei brosesu a ble y bydd y cynnyrch gorffenedig yn cael ei storioar ôl ei gynhyrchu. Bydd angen diagram llif gwaith effeithiol hefyd yn nodi’r camau prosesu a bydd diagram o’r fath o gymorth i chi efo’ch rhaglen HACCP.

Mae rhai eithriadau rhag y gofyniad i gael eich cymeradwyo.

Cael eich eithrio rhag cymeradwyaeth eiddo bwyd

Cael eich eithrio rhag cymeradwyaeth eiddo bwyd

Efallai nad oes rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth eiddo bwyd, yn dibynnu ar natur eich busnes.

Gallech fod wedi eich eithrio rhag gorfod cael cymeradwyaeth os ydych yn fanwerthwr, neu os ydych yn bwriadu cyflenwi i fanwerthwyr neu arlwywyr eraill, cyn belled â bod y cyflenwad bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid yn ‘ymylol, yn lleol ac wedi ei gyfyngu’.

Mae ‘ymylol’ yn golygu rhan fechan yn unig o fusnes y sefydliad. Byddai hyn hyd at chwarter y busnes o ran bwyd, neu lai na 2 dunnell o ran cig.

Mae ‘lleol’ yn golygu gwerthiant o fewn sir y sefydliad sy’n cyflenwi, a’r mwyaf naill ai o’r siroedd cyfagos neu hyd at 30 milltir o ffin y sir lle mae’r sefydliad sy’n cyflenwi wedi ei leoli.

Mae ‘wedi ei gyfyngu’ yn golygu nad oes a wnelo’r busnes ond â chynhyrchu mathau arbennig o gynnyrch neu â chyflenwi rhai mathau o sefydliadau yn unig.

Os ydych yn ansicr a oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth neu beidio, cysylltwch â ni yn iechydamgylchedd@sirddinbych.gov.uk

Os ydych yn ansicr a oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer eich eiddo neu beidio, cysylltwch â ni.

Sut ydw i’n gwneud cais am gymeradwyaeth?

Y ffordd fwyaf cyflym a chyfleus i wneud cais ar-lein.

Gwneud cais am gymeradwyaeth eiddo bwyd ar gov.uk (gwefan allanol)

Os oes gennych gymeradwyaeth eiddo bwyd eisoes, a bod eich amgylchiadau’n newid, gadewch i ni wybod.

Dweud wrthym am newidiadau i’r eiddo bwyd

Faint mae’n ei gostio?

Nid yw’n costio unrhyw beth i wneud cais am gymeradwyaeth adeiladau bwyd.