Tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol

Os ydi eich safle chi’n gweithredu neu’n cynnwys tŵr oeri neu gyddwysydd anweddol, yna mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni. Dylid ein hysbysu hefyd os caiff yr uned ei digomisiynu a/neu ei diheintio, neu os bydd yna newid perchennog (o fewn mis).

Fe gysylltir tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol yn aml ag achosion o glefyd y llengfilwyr. Math o salwch niwmonia ydi clefyd y llengfilwyr a achosir gan y bacteria Legionella pneumophila. Caiff y bacteria ei gario mewn defnynan dŵr bychan ac fe’i ceir yn gyffredin mewn tyrau oeri sydd wedi eu cynnal yn wael.

Dylai gweithredwyr tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol ofalu eu bod yn cael eu cynnal drwy drefniadau glanhau a diheintio.

Cofrestru tŵr oeri neu gyddwysydd anweddol

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru a’i hanfon i Neuadd y Sir.

Tyrau oeri: ffurflen gofrestru (PDF, 68KB)