Angladd Mike Peters: Dydd Iau, 29 Mai 2025
Cynhelir angladd y diweddar Michael Leslie Peters MBE ddydd Iau, 29 Mai yn Eglwys y Plwyf, Santes Ffraid a Sant Cwyfan, Dyserth. O ganlyniad, bydd rhywfaint o darfu ar y ffyrdd ar y diwrnod hwn. Isod mae crynodeb o’r mesurau a roddir mewn lle gan adran Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth ar y diwrnod gan y contractwr, Core Traffic Management:
- Caeir B5119 Ffordd y Rhaeadr yn gyfan gwbl rhwng yr A5151 a'r A547.
- Bydd y ffordd wedi ei chau rhwng 10am a 6pm. Bydd modd agor y ffordd yng nhgynt os bydd torfeydd yn gwasgaru cyn 6pm.
- Bydd llwybr dargyfeirio'r A5151 a'r A547 wedi eiarwyddo fel y bo'n briodol (ger cylchfan Clwb Golff Rhuddlan).
- Bydd mesurau rheoli traffig a gweithredwyr hefyd mewn lle ar y gyffordd â Weavers Lane ac yn ardal cyffordd Parc Gwelfor i sicrhau nad yw unrhyw drigolion sy'n dod i mewn ac allan yn troi tuag at yr eglwys ac i mewn i'r ardal lle rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o ymwelwyr ymgynnull.
- Bydd Lôn Carreg Heilen wedi ei chau a'i chynnwys yn y gorchymyn rheoleiddio traffig dros dro. Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn parcio cerbyd ar draws cyffordd y ffordd hon yn y pen uchaf â Lôn Pandy i sicrhau na fydd unrhyw gerbydau’n dod i mewn i’r pentref o’r cyfeiriad hwn. Unwaith eto, bydd trigolion yn gallu cael mynediad i'r ffordd at eu heiddo ac oddi yno.
- Bydd arwyddion cau ffyrdd yn cael eu gosod ymlaen llaw wythnos cyn cau'r ffordd yn cynghori am yr angladd ar 29 Mai rhwng 10am a 6pm.
- Caiff conau ‘dim aros’ eu darparu am tua 100m ar yr A547 o’r gyffordd gyda Ffordd y Rhaeadr – hyd at y gyffordd gyda Maes Cwyfan ar yr ochr orllewinol tuag at Ruddlan.
- Bydd arwyddion cyfyngiad cyflymder 30mya cynghorol yn cael eu gosod ar yr A547 a'r A5151 gan ei bod yn bosibl y bydd niferoedd fawr o ymwelwyr yn parcio a cherdded i Ddyserth o'r meysydd parcio a hysbysebir i'w defnyddio.
Preswylwyr Dyserth
Fe fydd mynediad i drigolion o fewn yr ardal sydd ar gau a chaiff hwn ei reoli ger y mannau cau gan y staff fydd yn gweithredu’r rheoli traffig. Gallant hwy gynorthwyo ac arwain trigolion at y llwybr mwyaf diogel i'w heiddo ac oddi yno.