Oeddech chi’n gwybod mai 2026 yw Blwyddyn Darllen Genedlaethol?
Ar draws y DU, mae plant, pobl ifanc ac oedolion yn darllen llai. Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anoddach darllen gyda'i gilydd gartref, ac mae'r cymunedau sy'n wynebu pwysau ariannol yn profi'r dirywiad mwyaf.
Mae pobl yn syrthio mewn cariad â darllen eto pan mae'n cysylltu â phwy ydyn nhw a'r hyn maen nhw'n poeni amdano, felly yn ystod Blwyddyn Darllen Genedlaethol, byddwn ni'n defnyddio'r angerddau hyn fel y sbardun sy'n gwneud darllen yn gyffrous. Yn caru cerddoriaeth, pobi, chwareon, sci-fi? Mae'r cyfan yn aros amdanoch chi yn eich llyfrgell leol; dewch o hyd iddo a mwynhewch.
Os nad ydych erioed wedi bod i’r llyfrgell o’r blaen, nawr yw’r amser perffaith i ddarganfod beth sydd yno i chi. O sesiynau rhigymau babanod i weithdai crefft a grwpiau darllen, mae eich llyfrgell yn le cymunedol croesawgar ar gyfer darllen, creadigrwydd a chysylltu.
Mae eich llyfrgell leol yn rhad ac am ddim i ymuno â hi ac yn rhoi mynediad i chi at filoedd o lyfrau ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae gan lyfrgelloedd hefyd ystod eang o deitlau Cymraeg a llyfrau mewn gwahanol fformatau.
Mae eich cerdyn llyfrgell hefyd yn rhoi mynediad am ddim i’n llyfrgell ddigidol, lle gallwch ddefnyddio apiau fel Borrowbox, uLibrary a Pressreader i lawrlwytho eLyfrau, llyfrau llafar, papurau newydd a chylchgronau.
I ddathlu Blwyddyn Darllen Genedlaethol, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gwahodd oedolion ledled y sir i gymryd rhan yn Her Ddarllen 2026 newydd sbon, sy’n lansio ar 16 Mawrth 2026. Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli darllenwyr o bob oed i ddarganfod awduron newydd, archwilio gwahanol fathau o lyfrau, a dathlu llawenydd sydd mewn darllen drwy gydol y flwyddyn.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gwblhau cyfres o heriau darllen thematig, gyda staff y llyfrgell wrth law i gynnig argymhellion a chefnogaeth. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn tynnu enwau am wobrau, gyda chyfleoedd ychwanegol i ymuno mewn trafodaethau llyfrau, digwyddiadau thematig a gweithgareddau cymunedol a gynhelir gan lyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi lles, dysgu a bywyd cymunedol. Mae Her Ddarllen 2026 yn gyfle gwych i oedolion ailgysylltu â darllen, darganfod rhywbeth newydd, a mwynhau popeth sydd gan ein llyfrgelloedd i’w gynnig. Rwy’n annog trigolion ledled Sir Ddinbych i gymryd rhan a gwneud darllen yn rhan o’u blwyddyn.”
Mae’r her yn rhad ac am ddim i ymuno â hi, ac mae croeso i bob oedolyn - p’un a ydynt yn ddefnyddwyr rheolaidd o’r llyfrgell neu’n newydd i’r gwasanaeth.
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i’ch llyfrgell leol neu dilynwch Lyfrgelloedd Sir Ddinbych ar y cyfryngau cymdeithasol.