Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa preswylwyr i fod yn ymwybodol o reolau Gorchmynion Diogelu Coed.

Mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd gofio y bydd Gorchmynion Diogelu Coed yn amddiffyn coed rhag cael eu tocio neu dorri heb awdurdod, ac mae unrhyw un sy’n gwneud gwaith o’r fath ar goeden sydd wedi ei diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yn cyflawni trosedd.

Yn ddiweddar, torrwyd coeden i lawr ym Mhrestatyn er bod Gorchymyn Diogelu Coed i’w hamddiffyn, ac felly bu’n rhaid i’r Cyngor gymryd camau gweithredu yn erbyn yr unigolyn a oedd yn gyfrifol.

Fe wneir Gorchymyn Diogelu Coed os ystyrir bod coeden mewn perygl a / neu os yw’n cyfrannu’n sylweddol at amwynder yr ardal leol. Caiff pob coeden sydd â’r potensial o ddod yn goed o dan Orchymyn Diogelu Coed eu hasesu ac mae’n rhaid iddynt fod mewn cyflwr da i haeddu cael eu diogelu yn ffurfiol.

Gall coed unigol, grwpiau o goed, coed coetir, a choed gwrych unigol ddod o dan Orchymyn Diogelu Coed. Ni ellir defnyddio Gorchmynion Diogelu Coed ar gyfer gwrychoedd, llwyni, prysglwyni, nac ar gyfer amddiffyn pob coeden mewn cymdogaeth ac atal datblygiad adeiladu neu welliannau i isadeiledd sydd wedi eu cymeradwyo, lle mae caniatâd cynllunio wedi ei roi.

Os yw’r Cyngor yn penderfynu gwneud Gorchymyn Diogelu Coed, bydd yn cael ei gyflwyno i’r tirfeddiannwr a phartïon cysylltiedig eraill (e.e. tirfeddianwyr cyfagos). Crëir Gorchymyn Diogelu Coed Dros Dro, yn para chwe mis, i ddechrau er mwyn amddiffyn coeden yn syth. Bydd partïon cysylltiedig yn cael gwybod, ac yna bydd ganddynt o leiaf 28 niwrnod i wrthwynebu.

Gall y cyhoedd hefyd wneud cais am Orchymyn Diogelu Coed drwy lenwi ffurflen ar-lein ar wefan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn annog pob tirfeddiannwr i aros a gwirio cyn gwneud unrhyw waith torri coed er mwyn sicrhau nad oes unrhyw orchmynion cyfredol ar goed yn yr ardal.

“Mae’n bwysig parchu’r gorchmynion hyn am fod coed yn hanfodol ar gyfer ein bioamrywiaeth. Maent hefyd yn rhoi cartref yn yr haf i adar sy’n nythu – adar y mae eu niferoedd wedi gostwng dros y blynyddoedd. Uwchlaw popeth, mae’n drosedd torri coeden sydd o dan amddiffyniad Gorchymyn Diogelu Coed.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Gorchmynion Diogelu Coed, dilynwch y ddolen isod:

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/rheoliadau-cynllunio-ac-adeiladu/cynllunio/gorchmynion-cadw-coed.aspx


Cyhoeddwyd ar: 11 Gorffennaf 2023