Gwneir Gorchmynion Cadw Coed gan awdurdodau lleol ac maen nhw’n gwneud torri, tocio neu ddifrodi coed mewn ffordd arall yn drosedd. Gall GCC gynnwys coed o unrhyw faint, oed, nifer neu rywogaeth.
Sut allaf i ffeindio a oes yna Orchymyn Cadw Coed ar goeden?
Gweld map efo Gorchmynion cadw coed
Os ydych chi’n bwriadu gwneud unrhyw waith ar goed ar eich eiddo ac rydych yn ansicr a oes yna Orchymyn Cadw Coed dylech gysylltu â ni.
Beth os oes yna orchymyn ar goeden?
Os oes yna Orchymyn Cadw Coed yna bydd angen i chi gael caniatâd gennym ni i wneud gwaith. Gallwch wneud hynny drwy ffurflen gais. Mae yna nodiadau canllaw ar gael i’ch helpu â’r ffurflen hon.
Cais i wneud gwaith ar goed sydd dan orchymyn cadwcoed (PDF, 708KB)
Canllawiau cais i wneud gwaith ar goed sydd dan orchymyn cadwcoed (PDF, 154KB)
Pa bryd y bydd GCC yn cael eu cymhwyso?
Gallwn wneud GCC newydd os bydd coeden dan ryw fath o fygythiad a’r goeden honno’n cyfrannu’n sylweddol tuag at amwynder ardal leol. Mae’n rhaid asesu hefyd fod y goeden mewn cyflwr da ac iach.
Gwybodaeth arall
Nid yw cymhwyso GCC yn golygu ein bod yn berchen ar y goeden nac yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am gost cynnal; mae hyn yn aros gyda’r perchennog yn unig.
Os byddwch yn cynllunio gwneud gwaith ar goed mewn ardaloedd cadwraeth, yna byddai’n rhaid i chi roi rhybudd o chwe wythnos o leiaf i’n hadran gynllunio er mwyn gwneud hynny.
Erlyniad a dirwyon
Os byddwch yn methu â chydymffurfio â gofynion GCC a deddfwriaeth Ardal Gadwraeth, gellir eich erlyn a’ch dirwyo o hyd at £20,000 y goeden.
Gwrychoedd Tal
Nid yw gwrychoedd tal yn cael eu diogelu gan Orchmynion Cadw Coed. Darllenwch eich canllaw ar ddelio â gwrychoedd tal i gael mwy o wybodaeth.
Canllawiau ymdrin â gwrychoedd uchel (PDF, 62KB)
Gweld hefyd:
Ymdrin â Choed – Canllaw i'r Cyhoedd (PDF, 497KB)