Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi bod Llyfrau Cydymdeimlad wedi’u hagor yn nifer o adeiladau’r Cyngor, er mwyn caniatáu i aelodau’r cyhoedd dalu teyrnged i’w Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II, a fu farw ddoe (Dydd Iau, Medi 8)

Mae’r Llyfrau Cydymdeimlad i’w cael mewn llyfrgelloedd yn Ninbych, Llangollen, Prestatyn, Corwen, Y Rhyl, Rhuddlan, Llanelwy a Rhuthun yn ystod oriau agor arferol. Ceir y wybodaeth ar y dudalennau'r llyfrgelloedd ar y wefan. 

Bydd llyfr hefyd ar gael yn Neuadd y Sir, Rhuthun (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-4.30pm)

Mae fersiwn electronig o Lyfr Cydymdeimlo hefyd ar gael ar wefan y Cyngor: 

Bydd y Llyfrau ar agor tan 5pm y diwrnod ar ôl yr angladd.

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych: “Tra bod y genedl yn galaru am farwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II, mae’r Cyngor wedi rhoi trefniadau ar waith i Lyfrau Cydymdeimlad gael eu gosod mewn lleoliadau ar draws y sir. Bydd y rhain ar gael i bobl eu harwyddo yn ystod oriau agor arferol y lleoliadau.

“Rydym yn falch o allu rhoi’r llyfrau hyn yn eu lle er mwyn i drigolion dalu teyrnged mewn modd ffurfiol”.


Cyhoeddwyd ar: 09 Medi 2022