Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae pobl ifanc yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymuno â chyfres newydd o Deithiau Lles am ddim, wedi’u cynllunio i helpu i gysylltu gyda phobl eraill, mynd allan i’r awyr agored a theimlo’n well, wrth ddarganfod rhai o lwybrau cerdded mwyaf hardd y sir.

Tîm Barod yn Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn partneriaeth â Ramblers Cymru sy’n rhedeg y teithiau cerdded wythnosol. Maen nhw’n cynnig ffordd gyfeillgar ac anffurfiol i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed roi hwb i’w hiechyd corfforol a meddyliol, wrth archwilio byd natur mewn cwmni da.

Mae staff Barod a Ramblers Cymru yn cefnogi’r sesiynau gan arwain teithiau cerdded ar hyd amrywiaeth o lwybrau lleol a helpu cyfranogwyr i ddysgu sgiliau awyr agored defnyddiol, fel canfod eu ffordd. Y grŵp fydd yn mynychu bob wythnos fydd yn penderfynu ar lwybrau, nid dim ond crwydro trwy’r Rhyl yw’r bwriad, ond cyfle i gynllunio llwybrau cyffrous ymhellach i ffwrdd.

Mae’r rhaglen yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol hefyd, sy’n bethau mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu, yn enwedig os ydynt yn treulio llawer o amser ar eu pen eu hunain neu adref.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r prosiect partneriaeth hwn yn enghraifft wych o sut gallwn ni gydweithio i gefnogi pobl ifanc mewn ffordd ystyrlon a chynhwysol. Nid dim ond cerdded sy’n bwysig, mae’r cysylltiad, hyder a lles yn bwysig hefyd. Byddwn i’n annog unrhyw berson ifanc sy’n teimlo’n rhwystredig neu’n unig i roi cynnig arni.”

Mae’r teithiau cerdded ar agor i unrhyw breswylwyr yn Sir Ddinbych rhwng 18 a 25 oed, waeth beth yw eu lefel ffitrwydd na’u cefndir. Nid oes pwysau i siarad am waith neu chwilio am swydd. Ond gall sgyrsiau anffurfiol agor drysau at gyfleoedd newydd weithiau, neu helpu pobl i deimlo'n barod i edrych ar eu camau nesaf pan fo’r amser yn iawn.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Rydym yn cydnabod yr effaith gadarnhaol all mynd allan i’r awyr agored ei chael ar les meddyliol a dylai teithiau cerdded fod yn amgylchedd diogel a chefnogol i bobl ifanc ffynnu ynddo.

“Rydym hefyd yn deall nad oes gan bawb offer, dillad neu esgidiau cerdded addas, yn enwedig ar gyfer llwybrau mwy gwledig, felly rydym yn gweithio i helpu i oresgyn y rhwystrau hyn trwy ddarparu offer addas i bawb sydd ei angen er mwyn cymryd rhan. Mae’n golygu meithrin hyder a chymuned.”

Meddai Olivia Evans o Ramblers Cymru: “Rydw i’n gyffrous iawn am y bartneriaeth hon gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a rhaglen Barod.

Mae’n gyfuniad perffaith o dimau i roi mynediad i bobl ifanc i’r awyr agored. Gyda nodau uchelgeisiol o gael rhai grwpiau allan i’r mynyddoedd, does wybod i le gallai’r teithiau hyn ein harwain!”

Cynhelir Teithiau Cerdded Lles bob prynhawn Iau am 3:30pm, gan ddechrau o Lyfrgell y Rhyl. Bydd cludiant a chymorth gydag offer ar gael pan fo angen.

Nid oes angen cadw lle, a chynghorir pawb sy’n mynychu i wisgo’n addas ar gyfer y tywydd. Mae croeso i ffrindiau ymuno â ni.

I gael rhagor o wybodaeth, gall preswylwyr ffonio 01745 331438 / 07342 070635 neu fynd i wefan Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.


Cyhoeddwyd ar: 10 Gorffennaf 2025