Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Yn ddiweddar, anfonwyd gwybodaeth berthnasol i’r trigolion hynny yn Sir Ddinbych sydd wedi gwneud cais am bleidlais bost yn yr etholiad llywodraeth leol sy’n digwydd yn fuan.

Yn anffodus, roedd y daflen wybodaeth yn y pecyn yn cynnwys camgymeriad gan fod yn nodi (yn anghywir) na allai pleidleiswyr bleidleisio am fwy nag un ymgeisydd. Fodd bynnag, mewn rhai wardiau’r sir ac maen etholiadau tref a chymuned, gall pleidleiswyr fod yn gymwys i bleidleisio am fwy nag un ymgeisydd.

Ym mhob achos, mae’r cyfarwyddiadau ar y papurau pleidleisio unigol yn gywir ac yn nodi’ glir faint o bleidleisiau y gellir eu marcio.

Os ydych yn pleidleisio drwy’r post, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan y Cyngor: <https://www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/pleidleisio-ac-etholiadau/etholiadau-cyngor-sir-etholiadau-lleol.aspx> neu drwy’r Uned Etholiadau ar 01824 706000 (Dydd Llun-Dydd Gwener 8.30am-5pm) neu etholiadau@sirddinbych.gov.uk

Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am y camgymeriad ac am unrhyw ddryswch.


Cyhoeddwyd ar: 23 Ebrill 2022