Etholiadau cyngor sir (etholiadau lleol)
Hysbysiad o Etholiad
Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau 24 Hydref 2024
- Cyngor Sir Ddinbych - Ward Etholiadol Gogledd Prestatyn
- Cyngor Tref Prestatyn - Ward y Gogledd a Ward Canolog
Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau 26 Medi 2024
- Ward Etholiadol Cyngor Sir Ddinbych - Y Rhyl Trellewelyn
- Cyngor Tref y Rhyl - Ward Trellewelyn
Gweld canlyniadau etholiadau ar gyfer Y Rhyl Trellewelyn
Mae gan Sir Ddinbych 48 cynghorydd sir yn cynrychioli 29 ward etholiadol. Caiff cynghorwyr sir eu hethol yn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhelir bob pum mlynedd.
Dod o hyd i’ch Cynghorydd Sir
Cynhaliwyd etholiadau cynghorydd sir blaenorol ddydd Iau 5 Mai 2022.
Edrychwch ar ganlyniadau’r etholiad cyngor sir
Pleidleisio
Er mwyn pleidleisio mewn etholiad cyngor lleol yng Nghymru, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio, yn 16 oed neu hŷn ar ddiwrnod y bleidlais, ac un o’r canlynol:
- yn ddinesydd Prydeinig
- yn Ddinesydd Gwyddelig neu Ddinesydd yr UE sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yno, neu nad oes angen caniatâd arnoch
- yn ddinesydd gwlad arall sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban, sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yno, neu nad oes angen caniatâd arnoch; ac
- ddim yn destun anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio
Dod o hyd i orsaf bleidleisio