Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Adeilad yn Y Rhyl

Mae prosiect llwyddiannus dan arweiniad tîm Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Ddinbych wedi helpu sawl eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl i wella ac adfywio.

O ganlyniad i fuddsoddiad drwy Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae gwaith wedi’i wneud i wella edrychiad llawer o adeiladau amlwg yng nghanol y dref, yn ogystal â dod ag adeilad sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd yn ôl i ddefnydd masnachol.

Mae’r Grant Trawsnewid Trefi wedi darparu £130,000 tuag at y gwelliannau hyn, gyda pherchnogion yr eiddo’n darparu cyllid cyfatebol.

1- 4 Rhodfa’r Dwyrain (adeilad Woolworth gynt)

Mae gwelliannau mawr wedi’u gwneud i du allan yr adeilad, sydd yn adeilad amlwg iawn ar gornel y Stryd Fawr yn y Rhyl.

Roedd hyn yn cynnwys gosod ffenestri, caeadau ffenestri a theils newydd ac ail beintio’r adeilad cyfan.

6 Ffordd Wellington, y Rhyl

Mae tu blaen yr adeilad hwn wedi cael ei ailaddurno’n gyfan gwbl.

Roedd hyn yn cynnwys gosod ffenestri codi pren newydd sy’n cyd-fynd â’r ardal gadwraeth.

32 Stryd Bodfor, y Rhyl

Mae’r prosiect hwn wedi dod ag eiddo masnachol a fu’n wag am gyfnod maith yn ôl i ddefnydd.

Roedd gwaith y prosiect penodol hwn yn cynnwys gosod ffrynt siop newydd a gwelliannau i’r ffasâd.

Canolfan y Rhosyn Gwyn, y Rhyl

Bwriad y prosiect hwn oedd gosod arwyddion newydd ar holl rannau allanol canolfan siopa enwog y Rhosyn Gwyn yng nghanol tref y Rhyl.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:

“Drwy’r Grant Trawsnewid Trefi bu modd i ni weithio gyda nifer o fusnesau a pherchnogion busnes yn y Rhyl a’u helpu nhw i wneud gwelliannau i edrychiad eu hadeiladau.

O ganlyniad i hyn mae lawer o adeiladau yng nghanol y dref yn edrych yn llawer gwell, yn cynnwys un adeilad a fu’n wag ers blynyddoedd.

Hoffwn ddiolch i’r holl berchnogion busnes sydd wedi gweithio gyda ni yn ystod y cyfnod hwn.”

I gael gwybod mwy am y grant ewch i.


Cyhoeddwyd ar: 24 Ebrill 2024