Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi
Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi i adnewyddu eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl.
Beth sydd ar gael?
Gall Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi ddarparu grant rhwng £5,000 a £50,000 i brosiectau unigol i ddatblygu ac uwchraddio eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl.
Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael. Os bydd gormod o geisiadau am gyllid rhoddir blaenoriaeth yn y drefn y daw ceisiadau wedi’u cwblhau a thystiolaeth ategol i law.
Cymhwysedd
Mae Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi ar agor i:
- berchnogion rhydd-ddaliad eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl
- meddianwyr eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl sydd:
- â phrydles â 7 mlynedd neu fwy ar ôl arni ar ddyddiad y cais
- wedi cael caniatâd ysgrifenedig eu landlord ar gyfer y gwaith datblygu arfaethedig
Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu arian cyfatebol o 30% ar gyfer y grant hwn.
Rydym yn disgwyl i bob prosiect allu dangos buddion i ganol tref y Rhyl, fel:
- lleihad yn y nifer o eiddo gwag yng nghanol y dref
- gwella ansawdd a delwedd gyffredinol yr amgylchedd (creu hunaniaeth, teimlad o le a hyder busnes) er mwyn annog:
- rhagor o bobl i dreulio mwy o amser yng nghanol tref y Rhyl
- mwy o weithgarwch a masnach i gefnogi busnesau lleol
- creu cyfleoedd cyflogaeth a busnes newydd
- cynaliadwyedd busnesau presennol a busnesau newydd yng nghanol y dref
Prosiectau cymwys
Gallai gwaith arfaethedig ar brosiect gynnwys:
- gwaith allanol i flaen adeilad a all gynnwys gwaith y bernir ei fod yn angenrheidiol er mwyn integriti strwythurol a defnydd yr eiddo, yn enwedig pan fo newid defnydd arfaethedig, gallai hyn gynnwys:
- blaen siopau
- gwella ffenestri arddangos
- gwella arwyddion
- ffenestri a drysau
- goleuadau allanol
- toeau a simneiau
- landeri a phibellau dŵr
- rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ail-bwyntio
- gwaith strwythurol
- byddai gwaith mewnol ond yn gymwys i dderbyn y grant fel rhan o becyn o welliannau allanol i’r adeilad, neu lle mae gofyn newid defnydd arfaethedig. Dylai hyn gynnwys yr holl waith, gweledol neu strwythurol, sydd ei angen i gwblhau’r prosiect i safon Rheoliadau Adeiladu. Gall hyn gynnwys:
- ffenestri a drysau
- gwell hygyrchedd
- waliau, nenfydau, goleuadau
- cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi
- cyfleusterau lles (e.e. cyfleusterau glanhau ac ymolchfa hanfodol yn unig)
- gwaith strwythurol
- bydd gwaith i wella effeithlonrwydd ynni adeilad (e.e. inswleiddiad gwell), yn gymwys, fel rhan o gyfres ehangach o waith
Nid yw gwaith i ddarparu neu wella eiddo preswyl yn gymwys ar gyfer y grant hwn.
Sut i ymgeisio
Os hoffech wneud cais am Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ar–lein.
Mae Datganiadau o Ddiddordeb ar gau ar hyn o bryd.
Ar ôl cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb
Os bydd yr holl feini prawf cymhwyso o’r Mynegiant Diddordeb wedi’u bodloni, byddwn yn cysylltu â chi a darparu ffurflen gais am grant gyflawn i’w llenwi gyda’r dystiolaeth ofynnol.
Caiff ceisiadau am grant eu hasesu o flaen panel cyllid a fydd yn penderfynu a ddylid dyfarnu’r grant ai peidio.