Mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi cychwyn ar draws ein llyfrgelloedd, gyda dros 1,000 o blant eisoes wedi cofrestru! Ydych chi wedi ymuno â’r antur eto?
Mae thema hyfryd eleni, sef Gardd o Straeon - Anturiaethau ym Myd Natur a’r Awyr Agored, yn gwahodd plant i archwilio’r cysylltiad hudolus rhwng adrodd straeon a byd natur. Mae’r sialens, a grëwyd gan yr Asiantaeth Ddarllen ac a gyflwynir mewn partneriaeth â’r llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ffordd hwyliog o ddiddori darllenwyr ifanc yn rhad ac am ddim drwy gydol yr haf.
Gall plant gofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf am ddim ac maen nhw’n cael gwobr bob tro maen nhw’n dychwelyd llyfr. Mae gan ein llyfrgelloedd ddetholiad gwych o lyfrau i ddewis ohonyn nhw, yn llyfrau lluniau, llyfrau stori, comics neu lyfrau gwybodaeth - mae yna rywbeth i bawb.
Dyma oedd gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, i’w ddweud:
“Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o ysbrydoli plant i ddarllen er pleser a chael mwynhad o lyfrau yn ystod gwyliau'r haf. Mae thema eleni’n cyfuno dychymyg a natur mewn ffordd hyfryd, gan annog darllenwyr ifanc i gysylltu â’r byd o’u cwmpas. Byddwn yn annog pob teulu i fynd draw i’w llyfrgell leol i gymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog sydd ar gael, ac i helpu eu plant i feithrin cariad oes at ddarllen.”
Mae llyfrgelloedd ar hyd a lled y sir hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim i gefnogi sialens eleni, ac rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu teuluoedd draw i gymryd rhan.
🎭Amser Stori gyda Mama G – Mae ein hoff gymeriad pantomeim yn dychwelyd i gyflwyno sesiynau stori bywiog yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
🦎Gweithdai Gwyddoniaeth Gwyllt – Dewch i gyfarfod yr anifeiliaid y tu ôl i’r straeon a dysgu popeth am eu cynefinoedd a’u hymddygiad mewn sesiynau rhyngweithiol llawn hwyl ym mhob llyfrgell.
🌱Natur er Budd Iechyd – Dewch i greu crefftau yn Llyfrgell Llangollen, a mwynhau sesiynau stori yng Ngardd Gymunedol Corwen.
Ydych chi’n barod am haf hudol llawn darllen, anturiaethau a dychymyg?
I weld lle mae eich llyfrgell agosaf ac i gael mwy o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf, ewch draw i’n gwefan.