Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Cyhoeddwyd canlyniad yr isetholiad a gynhaliwyd ar gyfer Adran Etholiadol Llandrillo ar Gyngor Sir Dinbych.

Cafodd ymgeisydd Plaid Cymru Gwyneth Ellis 179 o bleidleisiau ac fe’i hetholwyd i’r swydd yn ystod y bleidlais a gynhaliwyd ddydd Iau, 11 Tachwedd.

Cafodd yr ymgeisydd annibynnol David Robinson 140 o bleidleisiau tra cafodd Julian Sampson, ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru, 88 pleidlais.

Y ganran a bleidleisiodd oedd 42 y cant a gwrthodwyd un papur pleidleisio.

Ceir manylion llawn y bleidlais yn www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/pleidleisio-ac-etholiadau/isetholiadau.aspx


Cyhoeddwyd ar: 12 Tachwedd 2021