Mae mân-werthwyr yn Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa y bydd gwerthu a chyflenwi fêps untro (fêps tafladwy) yn cael ei wahardd yng Nghymru o 1 Mehefin 2025.
Bydd Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (yn cynnwys am ddim) cynnyrch fêps untro i gwsmeriaid yng Nghymru, gan mai nod y ddeddf yw atal niwed amgylcheddol a achosir drwy gynhyrchu a gwaredu’r cynnyrch hyn yn anghywir.
Bydd y gwaharddiad yn cynnwys fêps sy’n cynnwys nicotin, heb nicotin, CBD a dyfeisiau iechyd/fitaminau eraill, ac mae tîm Safonau Masnach y Cyngor yn annog busnesau Sir Ddinbych i newid i gynnyrch y mae modd ei ailddefnyddio cyn i’r gwaharddiad ddod i rym.
Pan ddaw’r gwaharddiad i rym, bydd yn rhaid i fusnesau:
- Stopio gwerthu cynnyrch fêp untro i gwsmeriaid neu fusnesau eraill.
- Stopio prynu cynnyrch fêp untro gan gyfanwerthwyr.
- Dweud wrth eu staff am y newidiadau hyn.
Rhaid i fêps y mae modd eu hailddefnyddio fod yn rhai:
- Y gellir eu hailwefru - Ydyn nhw’n cynnwys batri y gellir ei ailwefru dro ar ôl tro? Rhaid i’r batri fod yn un y gellir ei ailwefru, yn hytrach na rhoi batri newydd yn ei le.
- Y gellir eu hail-lenwi - A yw’n bosib i’r defnyddiwr ail-lenwi’r ddyfais â hylif fêp neu ddefnyddio podiau neu gynwysyddion addas?
- Coil y gellir ei newid - A yw’n bosib i’r defnyddiwr roi coil newydd? Bydd y cynnyrch yn cydymffurfio os yw’r coil wedi’i integreiddio i danciau, podiau neu gynwysyddion y gellir eu newid, os yw’r rhain ar gael ar wahân.
Dylai busnesau sydd â chynnyrch sydd wedi’u gwahardd siarad â chyflenwyr neu gwmnïau gwaredu ynglŷn â sut i’w hailgylchu’n ddiogel ac yn gyfreithlon.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r penderfyniad i wahardd fêps untro yn gam pwysig i leihau’r perygl i iechyd sy’n gysylltiedig â nhw yn ogystal â mynd i’r afael â’r niwed amgylcheddol rydym wedi’i weld y mae’n gallu ei achosi yn ein Sir.
“Mae hefyd yn bwysig nodi bod ffyrdd penodol y gall busnesau eu defnyddio i waredu’r fêps untro hyn yn ddiogel. Ni ellir eu rhoi mewn gwastraff y cartref oherwydd bod perygl iddynt fynd ar dân a rhaid eu gwaredu’n ddiogel yn y ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.
“Byddwn yn annog unrhyw fusnesau fyddai’n hoffi cael mwy o wybodaeth am y gwaharddiad i gysylltu â’n tîm Safonau Masnach.”
Os oes arnoch angen rhagor o gyngor neu gymorth, cysylltwch â’r tîm Safonau Masnach ar 01824 706 057 neu dros e-bost tradingstandards@denbighshire.gov.uk