Bydd drysau hanesyddol Carchar Rhuthun ar agor dros gyfnod Calan Gaeaf am y tro cyntaf mewn 4 blynedd.
O 21 Hydref tan 4 Tachwedd, bydd y Carchar ar agor bob dydd rhwng 10:30am a 4pm (mynediad olaf am 3pm) ar gyfer hwyl arswydus yn addas i’r teulu, gyda weithgareddau am ddim ar gyfer bob oed.
Mae’r gweithgareddau yma’n cynnwys crefftau a llwybrau ar thema Calan gaeaf yn y Carchar (prisiau mynediad arferol yn berthnasol).
Agorodd y Carchar ei ddrysau ym mis Ebrill ar ôl 2 flynedd dwy flynedd o waith adnewyddu yn dilyn llifogydd, ac mae’r nifer fwyaf o ymwelwyr wedi pasio drwy’r giatiau ers hynny, gyda dros 8,000 wedi’u cyfrif hyd yn hyn.
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth:
“Mae’r tîm cyfan yn edrych ymlaen at allu agor drysau ein celloedd unwaith eto i groesawu ymwelwyr dewr i’r Carchar am hwyl arswydus i’r teulu cyfan. Felly gwisgwch eich gwisg Calan Gaeaf gorau ac ymunwch â ni os maeddwch chi!”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n newyddion gwych y bydd y Carchar ar agor dros gyfnod Calan Gaeaf, mae’n lle gwych i gynnal digwyddiad o’r fath.
Fe fydd ganddynt ddigonedd o weithgareddau, felly dwi’n annog teuluoedd i ddod draw ac ymuno yn yr hwyl.”
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.facebook.com/ruthingaol/?locale=en_GB