Ar 10 Medi, croesawodd Sir Ddinbych yn Gweithio cannoedd o bobl i'w Ffair Swyddi diweddaraf ym Mar a Bwyty 1891, Pafiliwn Y Rhyl.
Daeth y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith, â dros 50 o gyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd, gan gynnwys Lluoedd Arfog Prydain, Melin Shotton, Gwestai Warner, Clwyd Alyn a Leader Optic.
Cafodd tua 500 o ymwelwyr i’r ffair gyfle i archwilio ystod eang o swyddi gwag ar draws sectorau fel lletygarwch, gofal, gweithgynhyrchu ac addysg.
Roedd y digwyddiad am ddim ar agor i bawb, ac yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n chwilio am waith, yn ystyried newid gyrfa, neu'n edrych i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth.
Trefnodd y tîm awr dawel yn ystod y digwyddiad ar gyfer pobl a fyddai o bosibl yn gwerthfawrogi awyrgylch tawelach.
Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio yw cydlynu cefnogaeth sy'n helpu pobl i gael gwaith trwy gael gwared ar rwystrau.
Trwy gydweithio â busnesau a sefydliadau lleol, mae'r rhaglen wedi ymrwymo i helpu trigolion ledled Sir Ddinbych i gael mynediad at gyflogaeth a datblygu sgiliau.
Dywedodd Jake O'Mara, Rheolwr Perthynas Cyflogwyr a Hyfforddiant yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Rydym wrth ein bodd gyda'r nifer a ddaeth a'r adborth cadarnhaol gan gyflogwyr a mynychwyr. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhan hanfodol o'n cenhadaeth i gysylltu pobl â chyfleoedd ystyrlon a'u cefnogi ar eu taith i waith.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Dinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae llwyddiant y Ffair Swyddi yn dangos pŵer gweithio mewn partneriaeth. Drwy ddod â chyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith at ei gilydd o dan un to, rydym yn helpu i chwalu rhwystrau ac adeiladu economi leol gryfach a mwy cynhwysol.”
I gael gwybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol, ewch i wefan Sir Ddinbych yn Gweithio neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.
_______________________________________________________________________________________________
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu'n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.