Goleuadau stryd masnachol

Yn ogystal â chynnal a chadw goleuadau stryd Sir Ddinbych, rydym ni hefyd yn darparu goleuadau addurniadol, tymhorol a masnachol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • goleuadau ar gyfer llochesi bws
  • goleuadau ar gyfer meysydd parcio ceir a meysydd manwerthu
  • goleuadau addurniadol
  • Teledu Cylch Caeëdig
  • gosod a thynnu colofnau, arwyddion, bolardiau a dodrefn stryd eraill
  • gwaith cebl dan ddaear gan gynnwys gosod terfyniadau cebl
  • profion trydanol

Gallwn ddarparu gwasanaeth llawn, sy’n cynnwys:

  • dylunio
  • manylebau
  • gosod
  • profion trydanol
  • comisiynu gosodiadau golau stryd

Mae ein cleientiaid yn cynnwys y rhan fwyaf o brif gontractwyr peirianneg sifil gogledd Cymru.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.