Graeanu yn y gaeaf

Rydym yn taenu halen ar ffyrdd i atal rhew rhag ffurfio bob nos pan ragwelir rhew neu amodau rhewllyd.

Rhoi gwybod am broblem gydag eira, rhew neu raenu ffyrdd

Pa ffyrdd sy'n cael eu graeanu?

Mae rhwydwaith Sir Ddinbych yn ymestyn dros 1416 cilomedr ac yn amrywio o ffyrdd bach gwledig nad ydynt yn cael eu defnyddio’n aml a lonydd cul at dai ynysig i ffyrdd rhanbarthol, strategol fel yr A55.

Mae’n rhwydwaith sy’n cael ei raeanu wedi’i rannu’n 9 ffordd:

  • 4 yn rhan ogleddol sy’n rhedeg o ddepo Cinmel
  • 5 yng nghanol ac yn ne’r sir sy'n rhedeg o ddepo Lôn Parcwr yn Rhuthun

Mae’r 9 ffordd yn ymestyn dros oddeutu 950 cilomedr gyda 605 o’r cilomedrau hyn yn cael eu trin.

Rydym yn anelu at raeanu ffyrdd blaenoriaeth  bedair awr cyn i’r tymheredd gyrraedd isafbwynt o sero gradd neu un radd os nad yw ein darparwr rhagolygon tywydd yn rhagweld rhew.

Rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r mathau hyn o ffyrdd:

  • Prif lwybrau dosbarthedig (ffyrdd A a B)
  • Prif lwybrau bysiau
  • Llwybrau mynediad i ysbytai, ysgolion a mynwentydd
  • Mynediad i wasanaethau’r heddlu, tân, ambiwlans ac achub
  • Prif lwybrau sy'n gwasanaethu pentrefi / cymunedau mawr
  • Prif lwybrau diwydiannol sy'n bwysig i'r economi leol
  • Prif lwybrau mynediad i ardaloedd siopa
  • Ardaloedd lle mae problemau hysbys yn bodoli, fel ardaloedd agored, llethrau serth a ffyrdd eraill sy'n dueddol o rewi.

I fod yn effeithiol, rhaid i’r halen gael ei wasgu gan draffig.

Yn anffodus, mae rhai adegau pan na allwn halltu’r ffyrdd cyn iddi ddechrau rhewi, er enghraifft:

  • Pan fo awyr las yn syth ar ôl glaw, caiff yr halen ei daenu fel arfer ar ôl i’r glaw stopio i’w atal rhag cael ei olchi i ymaith.
  • Mae 'rhew ben bore' yn digwydd ar ffyrdd sych wrth i wlith ben bore syrthio ar ffordd oer a rhewi'n syth. Mae'n amhosibl gwybod yn iawn lle a phryd y bydd hyn yn digwydd.
  • Eira'n syrthio yn ystod oriau brig. Pan fo glaw'n troi'n eira, sy'n gallu digwydd yn ystod oriau brig weithiau, ni all graeanu ddigwydd ben bore, gan y byddai'r glaw yn ei olchi i ffwrdd, a gall fod yn anodd i gerbydau graeanu wneud eu gwaith oherwydd traffig.

Awgrymiadau a chyngor ar yrru yn ddiogel yn y gaeaf.

Biniau halen

Medrwch gael halen graeanu o'r biniau graean melyn sydd wedi’u lleoli o amgylch y sir.

Dod o hyd i'ch bin halen agosaf

Gallwch daenu halen graeanu ar balmentydd a throedffyrdd cyhoeddus eraill, ond nid ar ddreifiau. Defnyddiwch raw i daenu'r graean yn denau ac yn gyfartal ar draws y palmant.

Cyngor ar glirio eira a rhew eich hun.

Côd Eira - Clirio eira a rhew eich hun (Swyddfa Dywydd) (gwefan allanol)

Os oes ffordd yn eich ardal chi sydd angen ei graeanu, neu os oes angen ail-lenwi eich bin halen, cysylltwch â ni.