Cyn Ysbyty Gogledd Cymru - Dinbych
Cafodd cyn Ysbyty Gogledd Cymru ei adeiladu ym 1844-8 i ddarparu gofal i siaradwyr Cymraeg oedd yn dioddef o salwch meddwl. Codwyd estyniad iddo yn y 1860au, ac eto yn yr 20fed ganrif, ac erbyn 1956 roedd 1500 o gleifion yno. Cyhoeddodd yr Awdurdod Iechyd y byddai’r Ysbyty’n cau ym 1987 a gadawodd y claf olaf ym 1995. Ers hynny, mae’r safle gwag wedi mynd â’i ben iddo yn ddifrifol.
Mae prif adeilad yr ysbyty yn adeilad rhestredig Gradd II* ac fe’i disgrifir fel "enghraifft eithriadol o gain ac arloesol o bensaernïaeth ysbyty meddwl o ddechrau Oes Fictoria".
Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog ac Aelodau etholedig lleol y Cyngor Cymuned a’r Cyngor Sir, rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn y blynyddoedd diweddar i ganfod ateb i’r safle, er mwyn gallu adnewyddu’r adeiladau rhestredig pwysig ac adfer y safle cyfan yn ôl i ddefnydd buddiol gan gynnwys swyddi, prentisiaethau, tai a defnydd cymunedol.
Mae safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru wedi mynd â’i ben iddo yn ddifrifol. Rydym yn rhybuddio unrhyw un rhag mynd i mewn i’r adeiladau er lles eu diogelwch eu hunain.
Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG)
Ym mis Medi 2013, pleidleisiodd Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor o blaid Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer cyn Ysbyty Gogledd Cymru, ar ôl i’r perchenogion, sef Freemont (Denbigh) Limited, fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Atgyweirio oedd yn gofyn iddynt gyflawni gwaith atgyweirio sylweddol i’r adeiladau ar y safle.
Yn unol â’r GPG, roedd yn rhaid i’r perchenogion ar y pryd werthu’r adeilad i Gyngor Sir Ddinbych, a fydd yn ei dro’n trosglwyddo perchenogaeth y safle i bartner datblygu.
Fis Medi 2015, caniatawyd y GPG i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru. Yna penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio awdurdodi Datganiad Breinio Cyffredinol, y cam olaf yn y broses Prynu Gorfodol, ac o ganlyniad i hynny daeth Cyngor Sir Ddinbych yn berchen ar y safle a chymryd meddiant ohono yn 2018.
Pwy yw perchenogion presennol safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru?
Cyngor Sir Ddinbych yw’r perchennog, ac ar hyn o bryd mae Jones Bros. yn meddiannu’r safle. Trosglwyddir perchnogaeth i Jones Bros. unwaith y rhoddir caniatâd cynllunio ac y bydd cytundeb cyfreithiol adran 106 wedi’i gwblhau.
Beth yw diddordeb Cyngor Sir Ddinbych yn y safle?
Mae Ysbyty Dinbych yn adeilad rhestredig gradd 2* (dwy seren) pwysig, wedi’i leoli mewn safle eang. Mae nifer o adeiladau rhestredig eraill o fewn y safle, ond mae'r Cyngor wastad wedi canolbwyntio ar sicrhau adferiad yr adeilad rhestredig pwysicaf. Caewyd yr ysbyty ym 1995 ac mae wedi cael dau berchennog ers hynny. Ers ei gau, mae wedi cael ei esgeuluso, ei fandaleiddio ac mae pobl wedi dwyn ohono. Mae bellach wedi adfeilio’n ddifrifol.
Bu’r perchennog blaenorol yn berchen ar y safle am oddeutu 14 mlynedd, ac wedi gadael i’r holl adeiladau ddirywio. Penderfynwyd caniatáu gorchymyn prynu gorfodol i Gyngor Sir Ddinbych brynu’r safle gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Beth yw’r cynigion ar gyfer y safle yn y dyfodol?
Wedi cwblhau’r broses Prynu Gorfodol, penododd Cyngor Sir Ddinbych bartner datblygu ar gyfer y safle, a llofnodi Cytundeb Datblygu â Jones Bros. ym mis Gorffennaf 2018.
Ymrwymodd Jones Bros. i gyflawni nifer o ofynion allweddol yn y cytundeb datblygu. Roedd a wnelo’r gofynion hynny ag yswiriant, iechyd a diogelwch, diogelwch y safle a chaniatâd cynllunio.
Cafodd y cynigion ar gyfer ailddatblygu cyn Ysbyty Gogledd Cymru gan Jones Bros (Ruthin Holdings Ltd) eu cyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Sir Ddinbych ar 8 Medi 2021. Penderfynodd y Pwyllgor roi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar amodau amrywiol ac ar y ddealltwriaeth y bydd manylion cytundeb cyfreithiol adran 106 yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor. Mae hon yn garreg filltir allweddol o ran ailddatblygu’r safle ac mae’n dod â’r broses o adfer adeiladau rhestredig allweddol yn nes.
Mae manylion y cais cynllunio a gyflwynodd Jones Bros. ym mis Mai 2020 i’w gweld yma.
Pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i achub y safle?
Mae ceisio achub yr adeiladau rhestredig pwysig a’r safle wedi bod yn fater hir a chymhleth. Gwarchod y prif adeiladau hanesyddol ar y safle sydd wedi bod yn brif flaenoriaeth i ni trwy hyn oll. Y gwaith rydym ni eisoes wedi’i wneud wrth sicrhau GPG yw’r gwaith mwyaf cymhleth rydym ni erioed wedi’i wneud ar adeilad rhestredig yng Nghymru.
Alla’ i ymweld â safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru?
Na, ddylech chi ddim mynd yn agos at yr adeiladau na hyd yn oed fynd ar y safle.
Mae unrhyw un sy’n mynd ar y safle heb ganiatâd yn tresbasu.
Beth alla’ i ei wneud i gefnogi safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru?
Mae gweledigaeth ar gyfer y safle wedi’i datblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Jones Bros, sydd wedi cynnwys rhywfaint o ymgynghori / ymgysylltu â’r gymuned, gan gynnwys diweddariadau rheolaidd i’r cyngor tref.
Mae Jones Bros. wedi meddiannu’r safle bellach ac yn dal i gydweithio â’r gymuned leol i helpu datblygu’r weledigaeth ymhellach ac ymgymryd â’r gwaith ailddatblygu y mae ei ddirfawr angen ar y safle. Mae ailddatblygu’r safle dan arweiniad Jones Bros yn cynnig cyfle anhygoel i’r gymuned leol o ran swyddi adeiladu, prentisiaethau yn ystod y cam ailddatblygu, ac yn y tymor canolig a hirach, bydd y safle yn cynnig cyfleusterau cymunedol a manteision economaidd i dref Dinbych.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r ffilm fer hon yn esbonio rhywfaint o hanes y safle a manylion y gwaith brys a gyflawnodd y Cyngor i gywiro’r diffygion.